Arolygon Cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013

Mae Cyngor Gwynedd wedi cwblhau Arolwg o Drefniadau Etholiadol Cymunedol dan adran 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol.

Gall y Cyngor wneud gorchymyn i weithredu’r newidiadau yn yr adroddiad, drwy orchymyn, yn dilyn cyfnod o 6 wythnos yn dechrau gyda dyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn.

Mae copi o’r Adroddiad hefyd ar gael i’w archwilio (yn ddi-dal) yn swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH am gyfnod o 6 wythnos.

Beth yw Cymuned?

At ddibenion yr arolygon hyn, uned llywodraeth leol islaw lefel cyngor sir (y ‘prif gyngor’) yw ‘cymuned’. Mae ardaloedd cymunedol yn gorchuddio Cymru gyfan. Mae ardal Gwynedd wedi ei rhannu’n 64 cymuned, gyda chyngor cymuned, tref neu ddinas etholedig yn gwasanaethu pob un. Yn y cyd-destun hwn yr un yw statws cyfreithiol y cynghorau beth bynnag y’i gelwir, h.y. maent i gyd yn cael eu hystyried yn ‘gynghorau cymuned’. Gall cymunedau yn eu tro gael eu rhannu’n wardiau at ddibenion etholiadol ond nid yw hyn yn anorfod, ac nid yw pob cymuned yng Ngwynedd wedi eu rhannu’n wardiau.

Beth yw Arolwg Cymunedol?

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Gwynedd, o dan Ddeddf 2013 fel ‘prif gyngor’, i fonitro’r cymunedau o fewn y sir a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny, a chynnal arolygon pan fo’r Ddeddf yn mynnu ei fod yn gwneud hynny neu pan fydd yn ystyried bod hynny’n briodol. Wrth gyflawni ei ddyletswyddau ac wrth gynnal unrhyw adolygiad, rhaid i’r Cyngor geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Mae dau fath o arolwg cymunedol y gall y Cyngor eu cynnal:

Arolwg o Ffiniau Cymunedol  (o dan adran 25 o’r Ddeddf): Arolwg o ffiniau un neu fwy o gymunedau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth leol a hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Gall argymell newidiadau i ffiniau cymunedau, sy’n  gynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, ond hefyd diddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd.

Arolwg o'r Trefniadau Etholiadol (o dan adran 31 o’r Ddeddf): Mae hyn yn golygu edrych ar y trefniadau ar gyfer cynrychiolaeth ar y cyngor cymuned o fewn cymuned. Wrth gynnal Arolwg o’r fath gall y Cyngor edrych ar:

  • nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y gymuned;
  • rhannu’n wardiau (os yw’n briodol) at ddibenion ethol cynghorwyr;
  • nifer a ffiniau unrhyw wardiau;
  • nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward;
  • enw unrhyw ward.