Rydym fel Cyngor yn cyhoeddi ein Hadroddiad Perfformiad Blynyddol er mwyn esbonio yn glir ac yn gytbwys, beth yr ydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn flaenorol.
Cynhelir cyfarfodydd herio a chefnogi perfformiad ar lefel Adrannol bob yn ail fis, a maent yn canolbwyntio ar gynnydd prosiectau Cynllun y Cyngor, perfformiad gwasanaethau (sef y gwaith ‘dydd i ddydd’), a’r ymateb i’r prif risgiau o fewn y Gofrestr Risg Corfforaethol. Mae’r adrannau hefyd yn adrodd yn uniongyrchol ar eu perfformiad i’r Pwyllgorau Craffu yng nghylch Mehefin a’r Hydref.
Gellir cael mynediad i’r adroddiadau perfformiad o fewn y pwyllgorau craffu isod.
Pwyllgorau Craffu
- Addysg ac Economi (yn agor mewn tab newydd) (Adrannau Addysg; Economi a Chymuned; Cyllid; Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol)
- Cymunedau (yn agor mewn tab newydd) (Amgylchedd a Priffyrdd, Peirianneg ac YGC)
- Gofal (yn agor mewn tab newydd) (Oedolion, Iechyd a Llesiant; Plant a Chefnogi Teuluoedd a Tai ac Eiddo)
Adroddiadau Perfformiad Blynyddol
- Gweld Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2024/25(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd)
- Uchafbwyntiau'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Mae Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd yn pwyso a mesur sut yr ydym wedi ymateb i’r blaenoriaethau yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 gan hefyd roi trosolwg o berfformiad dydd i ddydd. Cyflwynir yr hunan-asesiad hefyd yn flynyddol a hynny o dan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (2021) (yn agor mewn tab newydd)
Hunanasesiadau Cyngor Gwynedd
Y Meysydd Blaenoriaeth o fewn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad yw ein Hamcanion Llesiant dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (yn agor mewn tab newydd). Bydd yr Amcanion yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni’r saith nod llesiant cenedlaethol.
Adroddiad Blynyddol ar Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol
Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2024, yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, lunio adroddiad blynyddol i ddangos sut y maent wedi cydymffurfio â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a sefydlwyd gan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.
Adroddiadau Perfformiad a Hunanasesiadau Blaenorol sy’n adrodd ar Gynllun y Cyngor 2019-24
- Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 (yn agor mewn tab newydd)
- Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2023/24 (yn agor mewn tab newydd)
- Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022/23 (yn agor mewn tab newydd)
- Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cyngor Gwynedd 2021/22 (yn agor mewn tab newydd)
- Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2021/22 (yn agor mewn tab newydd)
- Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cyngor Gwynedd 2020/21 (yn agor mewn tab newydd)
- Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cyngor Gwynedd 2019/20 (yn agor mewn tab newydd)
Mae gwaith y Cyngor yn cael ei archwilio gan gyrff allanol megis Archwilio Cymru (yn agor mewn tab newydd), Estyn (yn agor mewn tab newydd) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (yn agor mewn tab newydd) er mwyn mesur perfformiad. Ceir yr adroddiadau perthnasol ar eu gwefannau.
Os ydych angen yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 neu e-bostio CynllunCyngor@gwynedd.llyw.cymru