Pa wybodaeth yr ydym yn ei gasglu
Bydd y wybodaeth byddem yn gasglu yn dibynnu ar natur eich hawliad, ac fe all gynnwys: enw, cyfeiriad, dyddiad geni, oed, galwedigaeth, rhifau ffon, cyfeiriad ebost, rhif cerbyd, rhif yswiriant gwladol, gwybodaeth personol sensitif megis gwybodaeth meddygol.
Sut y byddem yn casglu’r gwybodaeth
Cesglir gwybodaeth mewn sawl ffordd, yn cynnwys: gohebiaeth ysgrifenedig, ebyst, wyneb yn wyneb, galwadau ffon, gan gyrff eraill e.e. cyfreithwyr ac yswirwyr.
Pam ein bod angen eich gwybodaeth
Mae’r Cyngor yn casglu eich gwybodaeth er mwyn penderfynu a trin eich hawliad yswiriant yn erbyn Cyngor Gwynedd. Fel all eich gwybodaeth hefyd cael ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo gwasanaeth cysylltiedig dymunol neu a dderbyniwyd gan y Cyngor, megis gwneud cwyn neu cais am wasanaeth. Trwy wneud hawliad rydych yn caniatáu i’r Cyngor gasglu a prosesu eich gwybodaeth bersonol (gan gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif) ar yr amod y caiff ei ddefnyddio fel y nodir yn y datganiad yma. Gall methu a darparu gwybodaeth bersonol olygu na fyddwn yn gallu prosesu’ch cais.
Cyfiawnhad dros ddefnyddio’ch gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth personol:
- oherwydd fod gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu
- oherwydd ein bod yn ymgymryd a thasg er budd cyhoeddus
- ar gyfer adnabod ac atal twyll
Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.
Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Yn ddibynnol ar natur eich hawliad/cyswllt, fe all eich gwybodaeth cael ei rannu efo’r dilynol:
- Adrannau eraill o fewn y Cyngor
- Yswirwyr y Cyngor
- Cyfreithwyr mewnol / allanol
- Asiantaethau barnwrol – e.e. Llysoedd
- Cymhwyswyr colledion allanol
- Contractwyr allanol
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth
Bydd gwybodaeth yn cael ei gadw am 6 mlynedd ariannol llawn wedi i hawliad setlo. Lle mae plentyn yn rhan o hawliad, ni fydd y cyfnod yma’n cychwyn hyd nes penblwydd y plentyn yn 18.
Eich hawliau
Mwy o wybodaeth(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd) am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor.