Rydym yn casglu gwybodaeth am eich dyfais, porwr a’ch system weithredu er mwyn datblygu gwasanaethau ar-lein a’r wefan. Mae angen eich cyfeiriad IP am resymau diogelwch.
Rydym yn cadw copi o’r alwad ar gyfer hyfforddi staff a gwella gwasanaethau.
Sail gyfreithiol
Rydym yn casglu’r wybodaeth yma o dan Erthygl 6(1)(f) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gan ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ein buddion cyfreithlon.
Rhannu gwybodaeth
Ni fydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gydag unrhyw un arall (ac eithrio’r cwmni isod) nag yn cael ei throsglwyddo dramor. Fodd bynnag, fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Rydym yn defnyddio cwmni allanol o’r enw Click 4 Assistance i’n helpu ni i ddarparu’r wybodaeth yma.
Cyfnodau cadw
Mae’r cwmni yn cadw’r wybodaeth am y cyfnodau canlynol:
| Manylion sgwrs | 1 flwyddyn |
| Gwybodaeth crynodeb | 1 flwyddyn |
| All-lein / SmartContact/ Cais Manylion Click2Call | 3 mis |
| Manylion ymweliadau gwefan | 4 diwrnod neu 100,000 sesiwn |
| Awdit cleient / Argaeledd / Manylion sgwrs | 31 diwrnod |