Gwybodaeth i deuluoedd ar ein defnydd o wybodaeth bersonol
Rydym yn cadw at reolau diogelu data wrth gasglu a thrin eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu mai’r unig gofnodion y gallwn eu cadw ydi’r rhai sy’n berthnasol i’n gwaith ni efo chi. Rhaid i’r cofnodion hyn fod yn gywir, yn gyfoes, yn ddiogel ac yn cael eu cadw am gyfnod penodol yn unig.
Pa wybodaeth ydym yn cofnodi?
Rydym yn cofnodi gwybodaeth sylfaenol am bwy ydych chi, lle rydych yn byw, pam yr ydych yn defnyddio gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu ac am y gwaith rydym yn wneud â chi.
Beth ydi’n sail gyfreithiol ni dros wneud hyn?
Gan ein bod yn gweithio o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 rydym yn gwneud fel rhan o’n tasg gyhoeddus o dan Erthygl 6(1)(e) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac Erthygl (2)(h) ar gyfer gwybodaeth sensitif.
Pam ac efo pwy byddwn yn rhannu’r wybodaeth?
Byddwn yn rhannu gwybodaeth efo’r bobl sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda chi fel teulu, i sicrhau eu bod yn gallu cydweithio yn y dull mwy effeithiol a bod eich teulu yn derbyn y cymorth mwyaf priodol ar adeg amserol.
Bydd hyn yn cwtogi faint o weithiau bydd disgwyl i chi neu’ch plentyn ateb yr un cwestiynau sylfaenol drosodd a throsodd gan bobl wahanol
Rydym yn rhannu gwybodaeth efo’r Bwrdd Iechyd, Barnado’s, Y Bont, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Addysg ac ysgolion.
Gall arolygwr swyddogol edrych ar eich cofnod i weld a yw Tîm o Amgylch y Teulu yn gwneud ei waith fel y dylai a’i fod yn cadw cofnodion eglur a chywir.
Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth
Rydym yn cadw’r wybodaeth am gyfnod o hyd at 25 mlynedd.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i gael gweld y wybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi a’ch plentyn. I gael manylion am eich hawliau a sut i gysylltu efo’r Swyddog Diogelu Data, ewch i’r darn Hawliau ar ein gwefan.