Pam fod angen eich gwybodaeth arnom:

Er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaeth Safonau Masnach, mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni gasglu'r wybodaeth bersonol a ganlyn amdanoch chi:

  • eich enw, manylion cyswllt, rhif Yswiriant Gwladol, rhif pasbort, rhif trwydded yrru, rhywedd, gwybodaeth am unrhyw droseddau (gan gynnwys troseddau honedig) presennol neu yn y gorffennol ac euogfarnau
  • data iechyd a meddygol, gan gynnwys anableddau • gwybodaeth am hanes cyflogaeth
  • gwybodaeth ariannol, cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu
  • gwybodaeth a gedwir yn electronig ar ddyfeisiau megis cyfrifiaduron, gliniaduron, ffonau symudol a storfeydd pell ac oddi ar y safle
  • enwau busnes (enw masnachu, enw’r cwmni), dyddiad ymgorffori
  • data wedi'i gynnwys mewn negeseuon e-bost, nodiadau neu sgyrsiau rhyngom

Dim ond y lleiafswm o ddata sy’n angenrheidiol i ni wneud ein gwaith a fydd yn cael ei gadw.

Cynhelir holl weithgareddau Safonau Masnach Cyngor Gwynedd er mwyn cyflawni ei swyddogaethau swyddogol a chydymffurfio â gofynion cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth.

Os daw'r cyswllt drwy Wasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth, bydd y wybodaeth a gesglir ganddynt yn cael ei throsglwyddo i ni, yn unol â'u hysbysiad preifatrwydd Polisi preifatrwydd Cyngor Ar Bopeth (Citizens Advice).

Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth:

Mae gan Safonau Masnach swyddogaethau amrywiol iawn, o helpu a diogelu defnyddwyr a busnesau i erlyn troseddwyr, ac felly mae'r sail gyfreithiol i brosesu data yn amrywio o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Gwneir y rhan fwyaf o'n gwaith Safonau Masnach i gyflawni tasg gyhoeddus a/neu rwymedigaeth gyfreithiol o dan Erthygl 6 1(e) 6 1(c) GDPR.

Rydym yn casglu data personol i'n galluogi i ymgymryd â'n dyletswyddau mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol, sy'n cynnwys:

  • Deddf Hawliau'r Cwsmer 2015
  • Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008
  • Deddf Nodau Masnach 1994
  • Deddf Menter 2002
  • Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2015
  • Rheoliadau Gwybodaeth Bwyd 2014
  • Deddf Diogelwch y Cyhoedd 1961 • Deddf Enillion Troseddol 2002
  • Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981
  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • Deddf Gofal 2014
  • Deddf Pwysau a Mesurau 1985
  • Rheoliadau (Cyfnerthu) Petroliwm 2014

Weithiau, gallwn brosesu data sy'n cynnwys gwybodaeth am faterion sensitif, megis eich ethnigrwydd, cysylltiadau gwleidyddol neu grefyddol neu eich statws iechyd. Yn ôl y gyfraith, mae hwn yn ddata 'categori arbennig'. Rydym yn ofalus mai dim ond gyda chyfiawnhad cyfreithiol addas y prosesir y wybodaeth, fel a ganlyn:

  • Erthygl 9 2 (g) GDPR y DU - am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol

Pan fyddwn yn prosesu data at ddiben gorfodi cyfraith droseddol, mae ein seiliau cyfreithiol i'w canfod o dan rannau 2 a 3 Deddf Diogelu Data 2018. Ystyrir ein bod yn 'awdurdod cymwys' at ddibenion gorfodi'r gyfraith, gan fod gennym bwerau cyfreithiol i erlyn troseddau safonau masnach.

Mae ein holl waith o dan ein dyletswyddau gorfodi'r gyfraith yn disgyn o dan feini prawf adran 31 Deddf Diogelu Data 2018, sef:

"atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau neu weithredu cosbau troseddol, yn cynnwys diogelu yn erbyn ac atal bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd."

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth:

Yn arferol ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth y tu allan i Grŵp Gwarchod y Cyhoedd Gwynedd, os nad oes rhwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. O fewn y Grŵp Gwarchod y Cyhoedd, gellir rhannu eich manylion gyda thimau eraill sy'n cefnogi ein gwasanaeth a sydd angen eich gwybodaeth bersonol i gyflawni eu swyddogaethau statudol.

Petai gweithgaredd neu wybodaeth yn cael ei adnabod, neu bod tystiolaeth o weithred troseddol neu anghyfreithiol, gellir rhannu gwybodaeth at ddibenion gorfodi'r gyfraith, sy'n cynnwys atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau neu weithredu cosbau troseddol, yn cynnwys diogelu yn erbyn ac atal bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd. Gellir rhannu'r wybodaeth gydag:

  • asiantaethau gorfodaeth allanol, megis HMRC, yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol, DWP, y tîm Benthyca Arian yn Anghyfreithlon, y Gwasanaeth Ansolfedd, Trwyddedu, Action Fraud, Iechyd yr Amgylchedd, yr Adran Gyfreithiol
  • safonau masnach awdurdodau lleol a chenedlaethol a thimau ymchwilio rhanbarthol
  • adrannau llywodraeth ganolog megis y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch • heddluoedd a gwasanaethau tân ac achub
  • aelodau'r cyhoedd, yn unol â'r gyfraith, o dan amodau penodol y Ddeddf Diogelu Data neu'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth dim ond pan fo gofyn cyfreithiol dros wneud hynny a phan fo'r rhannu yn angenrheidiol, yn gyfreithiol ac yn gymesur. Byddwn yn asesu pob cais yn unigol, ac yn asesu effaith unrhyw ddatgeliadau. Bydd gwybodaeth a rennir yn cael ei wneud yn unol â'n protocolau rhannu gwybodaeth.

Am ba hyd fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth:

Ni fyddwn ein cadw eich gwybodaeth am gyfnod hwy na sy'n angenrheidiol ar gyfer y dibenion y cafodd ei chasglu - yn gyffredinol ni fydd yn hwy na saith mlynedd ar ôl cau'r mater mewn perthynas â'r diben y cafodd eich chasglu, ond gall y cyfnod amrywio yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cedwir data personol sy'n ymwneud â safleoedd storio petroliwm am gyfnod amhenodol.

Eich hawliau:

Mae gennych hawl i weld y wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch chi a'r hawl i gywiro unrhyw gamgymeriadau yn y data.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau, neu os hoffech gwyno am y modd yr ydym wedi ymdrin â'n data personol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost: swyddogdiogeludata@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000.

Yn ogystal mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych o'r farn nad ydym yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â'r gyfraith.