Y pwrpas a'r sail gyfreithlon dros brosesu
Pwrpas y prosiect yw cael systemau iechyd a systemau gofal cymdeithasol i weithio'n agosach gyda'i gilydd. Mae gwahanol adrannau o fewn iechyd a gofal cymdeithasol yn defnyddio gwahanol systemau TG i olrhain cleifion, sy'n golygu nad yw pawb sy'n rhoi cymorth i glaf yn gwybod pwy arall sy'n ymwneud ag unrhyw glaf unigol. Pwrpas y prosiect hwn yw dod â'r systemau hynny yn agosach at ei gilydd fel y gellir cydlynu gofal ar draws proffesiynau. Er enghraifft, bydd therapydd yn gwybod a oes gan unrhyw gleifion unrhyw ofal cartref a gall drafod sut i gydweithio i adfer claf ar ôl ei ryddhau. Bydd gweithwyr cymdeithasol yn gwybod pwy yw'r nyrsys ardal sy'n ymwneud â chleifion penodol a gallant nodi unrhyw bryderon ynghylch lles y claf. Mae natur ddarniog y systemau TG a ddefnyddir ar hyn o bryd yn golygu nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau hollbwysig bob amser ar gael yn hawdd i bobl allweddol a allai, o bosibl, weithio gyda'i gilydd.
Y sail gyfreithlon yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol yw Erthygl 6(1)(e), GDPR y DU, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fydd hyn yn angenrheidiol i gyflawni ein tasgau cyhoeddus, sef darparu gofal cymdeithasol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Y sail gyfreithlon ar gyfer categorïau arbennig (sef data iechyd yn yr achos hwn) yw Erthygl 9 (2)(h),GDPR y DU h.y. mae prosesu yn angenrheidiol er dibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu capasiti gweithio'r gweithiwr, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Yr hyn sydd ei angen arnom
Bydd y data a gesglir o systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddata adnabyddadwy craidd (enw, dyddiad geni, cod post, cyfeiriad a rhif y GIG). Bydd y setiau data hyn yn nodi pa systemau sydd â phroffil ar gyfer unrhyw glaf yn yr ysbyty sydd dros 18 oed. Bydd adroddiad yn cael ei lunio i ddangos pa broffesiwn sydd wedi bod yn rhoi cymorth i'r claf. Ni fydd yn rhannu unrhyw wybodaeth ddiagnostig heblaw am roi gwybod pa broffesiynau sy'n gweithio gyda chleifion sy'n mynd i mewn i'r ysbyty. Bydd hefyd yn enwi'r gweithiwr proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o fywyd y claf hwnnw. Bydd yr adroddiad yn annog gweithwyr proffesiynol i ddod i adnabod ei gilydd a chynnal sgyrsiau am gynllun rhyddhau cleifion ar ôl iddynt ddod i mewn. Bydd cleifion nad ydynt yn hysbys i unrhyw system hefyd yn cael eu harddangos, a gellir cynnal sgwrs rhwng gweithwyr gofal cymunedol a gweithwyr gofal eilaidd am y cynllun rhyddhau. Pan nad oes angen unrhyw ymyrraeth gymunedol ar y claf, bydd yn cael ei dynnu oddi ar yr adroddiad.
Pam mae ei angen arnom
Ar hyn o bryd nid yw gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymunedol yn gwybod pa gleifion sy'n cael gofal gan weithwyr proffesiynol eraill. Mae hyn yn golygu nad yw'r gofal a roddir i gleifion yn y gymuned wedi'i gydlynu ac nad yw mor effeithlon ag y gallai fod. Bydd y system cydweddu data hon yn rhoi cyfle inni drefnu gwell gofal gan y bydd gweithwyr iechyd a chymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd er budd y dinesydd.
Yr hyn rydym yn ei wneud ag ef
Byddwn yn cydweddu'r data adnabyddadwy rhwng cofnodion iechyd a chymdeithasol, ac yn llunio adroddiad ar gyfer pob Tîm Adnoddau Cymunedol er mwyn iddynt gynllunio'r broses o ryddhau
cleifion gyda'r ysbyty. Bydd y data personol yn cael eu dileu ar ôl i'r claf gael ei ryddhau. Yn yr un modd, os nad yw'r claf wedi cael unrhyw gymorth hanesyddol ac nad oes angen unrhyw ymyrraeth i'w ryddhau, bydd y data'n cael eu dileu o'r adroddiad.
Pa mor hir yr ydym yn ei gadw
Bydd y ‘cydweddiad’ yn cael ei gynnal cyhyd â’ch bod yn glaf mewn unrhyw ysbyty cymunedol neu gyffredinol, neu nes ein bod yn gwybod nad oes angen cymorth ar y cleifion i adael.
Sut i gael mwy o wybodaeth?
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Swyddfa Gwybodaeth Comisiynwyr (yn agor mewn tab newydd)