Ymwelwyr â’r wefan

Pan mae rhywun yn ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru rydym yn defnyddio darparwyr 3ydd parti, SiteImprove a Google Analytics, er mwyn casglu gwybodaeth am batrwm ymddygiad ymwelwyr ar y wefan. Mae hyn yn ein galluogi i weld faint o ymwelwyr sy’n mynd i wahanol dudalennau ar y wefan, ac yn ein helpu i wella y profiad o fod ar y wefan i'r cwsmer.
Byddwn yn cadw eich cyfeiriad IP am hyd at flwyddyn am resymau diogelwch.

Cwcis

Gallwch weld gwybodaeth am ein defnydd o gwcis ar y dudalen Datganiadau preifatrwydd a chwcis.

Holiadur bodlonrwydd â’r wefan

Gall unrhyw un sydd yn ymweld â’r wefan roi sgôr am y dudalen. Mae cyfle hefyd i adael cyfeiriad e-bost os ydych am i ni gysylltu yn nôl. Bydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei ddal am uchafswm 1 flwyddyn. Os nad ydych yn darparu cyfeiriad e-bost, nid yw’n bosib i ni adnabod yr unigolyn sydd wedi gadael y sgôr.

Taliadau ar-lein

Pan fyddwch yn defnyddio cardiau debyd i wneud taliadau drwy ein gwefan - treth cyngor ayyb, bydd rhif y cerdyn yn cael ei amgryptio, yn ogystal â nifer fesurau diogelwch eraill.

Youtube

Mae fideos wedi ei mewnosod ar rai tudalennau ar y wefan. Pan yn clicio ar y linc sy’n agor y fideo byddwch yn mynd i wefan YouTube, a bydd eich data yn cael ei drin yn unol â’u datganiadau preifatrwydd nhw.

Gwefannau allanol

Mae yna nifer helaeth o gysylltau i wefannau allanol ar ein gwefan. Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r gwefannau trydydd parti hyn mewn unrhyw ffordd.

Ymgynghoriadau

O bryd i’w gilydd bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriadau er mwyn i drigolion gael dweud ei dweud ar y gwasanaethau rydym yn ei ddarparu. Bydd pob holiadur yn cynnwys datganiad preifatrwydd ac yn nodi beth fydd cyfnod cadw’r data a beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth yr ydych yn ei ddarparu.

Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor a rhai cyrff allanol er mwyn darparu gwasanaeth i chi. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda chyrff allanol heb fod rhaid.

Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.