Mae’r hysbysiad hwn yn nodi pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a'i phrosesu er mwyn darparu gwasanaethau trafnidiaeth i unigolion cymwys a thrigolion Gwynedd. Rydym yn darparu gwasanaethau i ddiwallu ein dyletswyddau o dan

  • Ddeddfau Trafnidiaeth 1968 a 1985, 2000 Deddf Trafnidiaeth Leol 2008, Deddf Bysiau 2017 a Deddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006.

Mae Timau yn ein Gwasanaeth Trafnidiaeth yn gyfrifol am

  • Ddatblygu strategaeth a pholisi trafnidiaeth i Wynedd
  • Sicrhau bod trafnidiaeth yn cael ei chynllunio'n dda, ei chyllido'n addas a'i darparu mewn dull amserol a chynaliadwy
  • Hysbysu, dylanwadu a chymeradwyo agweddau priffyrdd o gynigion datblygu yn ei rôl fel ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio

Mae ein tîm Trafnidiaeth Gyhoeddus yn rheoli holl agweddau'r gwasanaethau Trafnidiaeth Gyhoeddus sydd o dan gontract, ac yn gyfrifol am

  • Reoli gwasanaethau bysiau o dan gontract (Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol
  • Trafnidiaeth gymunedol
  • Darparu tocynnau bysiau am ddim gyda Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaethau Diogelwch Ffyrdd

Pa wybodaeth a ddelir gennym?

Er mwyn darparu'r swyddogaethau a ddisgrifir uchod, rhaid i ni gasglu a phrosesu gwybodaeth am bobl sy'n gofyn am wasanaeth gennym, sy'n cymryd rhan yn ein prosiectau, sy'n rhoi adborth i ni am bethau yr ydym yn gyfrifol amdanynt neu sy'n gweithio gyda ni fel gwirfoddolwyr, partneriaid neu gontractwyr i'n cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau.

  • Manylion cyswllt ac adnabod megis enwau, cyfeiriadau, negeseuon e-bost a rhifau ffôn a manylion deiliaid tocynnau
  • Gwybodaeth yr ydych yn ei darparu wrth wneud ceisiadau am wasanaethau gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein, megis ceisiadau ar gyfer cardiau teithio bws. Gall fod yn wybodaeth sy'n cadarnhau'r meini prawf cymhwyster am wasanaethau, gan gynnwys manylion unrhyw anableddau neu anghenion gofal
  • Gwybodaeth i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn cwrdd ag anghenion unigolyn, megis gwybodaeth feddygol neu wybodaeth am unrhyw anghenion addysgol arbennig neu anableddau.
  • Manylion yswiriant car, trwyddedau gyrru a thrwyddedau a ddelir gan bobl sy'n ymgeisio i fod yn yrwyr trafnidiaeth gymunedol.
  • Gwybodaeth a rennir fel rhan o gwynion, canmoliaeth neu apeliadau er mwyn i ni ymateb yn briodol iddynt

Gyda phwy fyddwn ni'n rhannu'r wybodaeth, a pham

Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei chofnodi mewn ffeiliau papur, cronfeydd data a ffolderi electronig ar rwydwaith diogel Cyngor Gwynedd sydd ar gael i staff yn unig, lle bo angen iddynt ei gweld er mwyn cyflawni eu swyddogaethau.

Bydd yr holl staff sydd â mynediad i wybodaeth amdanoch wedi derbyn hyfforddiant ar ddiogelu data a diogelwch gwybodaeth, ac yn gweithio o dan god ymddygiad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt barchu cyfrinachedd y wybodaeth amdanoch y maent yn cael mynediad iddi at ddiben cyflawni eu swyddi.

Er mwyn darparu'r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu wasanaethau y mae'n rhaid i ni eu darparu yn ôl y gyfraith, byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda'n partneriaid a gwasanaethau o dan gontract, megis Llywodraeth Cymru. Pan fyddwn yn gwneud hyn, mae ein contractau yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, a byddwn yn rhannu dim ond yr hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau.

Am pa gyfnod fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Ni fyddwn ond yn cadw'r wybodaeth cyhyd ag sydd ei hangen. Bydd hyn yn seiliedig ar ofyniad cyfreithiol (pan fo cyfraith yn nodi bod yn rhaid cadw gwybodaeth am gyfnod penodol) neu ymarfer busnes sefydledig. Ar gyfer y mwyafrif o gofnodion amdanoch, bydd hyn hyd at dair blynedd ar ôl ein cyswllt olaf â chi. Cedwir cofnodion ariannol am saith mlynedd