Mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn os ydych yn cyflwyno cais am hyfforddiant Pass Plus. Cyngor Gwynedd yw’r rheolydd data a bydd yn prosesu eich gwybodaeth bersonol os fyddwch yn cwblhau cais ar gyfer hyfforddiant Pass Plus.

Pam fod angen eich gwybodaeth bersonol arnom?

  • Er mwyn prosesu eich cais
  • I gysylltu â chi ynglŷn â'ch cais
  • I benderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer Hyfforddiant Pass Plus

Yn unol ag erthygl 6 GDPR, mae'n angenrheidiol prosesu data er eich buddiannau cyfreithlon chi, a mewn perthynas â gwybodaeth yr hyfforddwr, mae'n angenrheidiol er mwyn gweithredu'r contract.

Cedwir eich data am gyfnod o chwe blynedd. Mae hyn yn unol â pholisi'r Cyngor ar Gadw a Gwaredu Data.