Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn: Datganiad Preifatrwydd

Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn defnyddio gwybodaeth am blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n derbyn gwasanaeth i gynnal swyddogaethau penodol i atal troseddu neu aildroseddu. Rydym yn casglu ac yn dal eich gwybodaeth er mwyn

  • asesu anghenion pobl ifanc a chynnig cymorth
  • cyflwyno'r GCI ar draws Gwynedd a Môn er mwyn gwella'r gwasanaeth, y cynllunio a'r perfformiad

Pam bod gennym hawl i ddefnyddio'ch gwybodaeth

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi dod i gyswllt â'r system cyfiawnder troseddol gan eu bod wedi cyflawni trosedd, neu mewn perygl o droseddu.

Mae'r GCI yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth am unigolion yn gyfreithlon o dan y deddfwriaethau a ganlyn:

  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003
  • Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012
  • Deddf Rheoli Troseddwyr 2007
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1994
  • Deddf Plant 1989
  • Deddf Plant 2004
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Math y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Er mwyn darparu ein defnyddwyr gwasanaeth â gwasanaethau diogel o ansawdd uchel sy'n berthnasol i'w hanghenion, bydd y GCI yn casglu ac yn dal gwybodaeth am unigolion. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • manylion sylfaenol megis enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt
  • rhieni/gofalwyr, aelodau o'r teulu - enw, cyfeiriad, manylion cyswllt
  • hanes troseddu
  • asesiadau
  • pob cyswllt gyda'r GCI
  • cofnodion tai
  • cofnodion addysg
  • adroddiadau'r Heddlu
  • gwybodaeth am ddioddefwyr troseddau ieuenctid

Rydym hefyd yn casglu'r data categori arbennig a ganlyn:

  • rhyw
  • ethnigrwydd
  • crefydd
  • gwybodaeth feddygol
  • gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol eraill a allai fod ynghlwm, e.e. CAMHS, camddefnyddio sylweddau, iaith a lleferydd

Casglwn wybodaeth yn y ffyrdd a ganlyn:

  • wyneb yn wyneb
  • e-bost diogel
  • post
  • ffôn

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth

Mae rhannu gwybodaeth yn ein cynorthwyo i ddarparu defnyddwyr gwasanaeth â'r ymyraethau a'r gefnogaeth gorau bosib. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth berthnasol amdanoch chi gyda gwasanaethau eraill pan fyddant ynghlwm â'ch gofal a'ch cefnogaeth, neu pan fo sail gyfreithiol dros wneud hynny.

Mae amrediad o weithwyr proffesiynol a allai fod yn rhan o ddarparu gwasanaethau i chi a, pan fydd angen, byddant yn derbyn gwybodaeth berthnasol amdanoch chi.

Mae'r asiantaethau yr ydym yn rhannu gwybodaeth â nhw, neu'n derbyn gwybodaeth ganddynt, yn cynnwys y rhai a ganlyn, ond nid yw'r rhestr yn gyflawn:

  • Yr Heddlu
  • Asiantaethau barnwrol (llysoedd EM a gwasanaethau'r tribiwnlys, cyfreithwyr)
  • Gweithiwr Cymdeithasol Plant
  • Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Gwasanaethau iechyd (ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, Meddygon Teulu, ymgynghorwyr)
  • Gwasanaethau/darparwyr addysg
  • Gwasanaethau/cyflenwyr tai
  • Cyllid a budd-daliadau
  • Gwasanaethau cyffuriau ac alcohol
  • Carchardai/sefydliadau diogel
  • Timau/gwasanaethau troseddu ieuenctid eraill
  • Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Pan fydd angen i bwrpas ‘Tasg gyhoeddus’ a lle mae yna gytundeb Rhannu Gwybodaeth penodol mewn lle, bydd y GCI yn rhannu gwybodaeth efo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i bwrpas ymchwil a dadansoddeg.

Sut caiff eich gwybodaeth ei chadw

Mae diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig i ni. Mae'r cofnodion y cadwn amdanoch chi yn ddiogel ac yn cael eu trin yn gyfrinachol. Mae gan y Cyngor amrediad o weithdrefnau, polisïau a systemau i sicrhau bod mynediad i'ch cofnodion yn cael eu rheoli'n briodol.

Mae unrhyw un sy'n derbyn gwybodaeth gennym hefyd dan ddyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio'r wybodaeth er y dibenion a gytunwyd yn unig, ac i gadw'r wybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol.

A fydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo dramor?

Nid ydym yn prosesu eich data personol y tu allan i'r Deyrnas Unedig

A fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd?

Na, ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd

Am ba mor hir fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol, a pham?

Rhaid i ni gadw cofnodion busnes o'n hymglymiad â chi ar ffurf papur ac electronig. Bydd y math o wasanaeth y byddwch yn ei dderbyn yn pennu pa mor hir sydd gennym i gadw'ch gwybodaeth bersonol. Nid yw data yn cael ei ddal yn hirach na'r angen.

Am wybodaeth am ein cyfnodau cadw, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor.

Eich hawliau a manylion y Swyddog Diogelu Data

Am wybodaeth am eich hawliau, a manylion Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, gweler y Datganiad preifatrwydd