Mae tîm y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn casglu, yn prosesu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu ein gwasanaethau yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:
- Prosesu cwynion
- Ymholiadau Cyffredinol
- Ymholiadau ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus
- Prosesu grantiau yn ymwneud â Llywodraeth Cymru
- Ceisiadau i gau llwybrau dros dro
- Ceisiadau i ymchwilio i orchmynion addasu mapiau swyddogol
- Ceisiadau i gymryd rhan mewn fforymau mynediad lleol cefn gwlad
Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth a ganlyn:
- Gwybodaeth bersonol
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
Cesglir y wybodaeth drwy:
- Ffurflenni papur, electronig neu ar-lein
- Dros y ffôn
- E-bost
- Wyneb yn wyneb
Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad yn prosesu data personol yn unol â’r seiliau cyfreithiol a ganlyn:
- Erthygl 6(1)(c) GDPR - mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolydd data yn destun iddynt
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
- Deddf Priffyrdd 1980
Cedwir eich data am gyfnod o chwe blynedd. Mae hyn yn unol â pholisi'r Cyngor ar Gadw a Gwaredu Data.