Pwrpas a sail gyfreithiol prosesu
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am eich plentyn / person ifanc er mwyn darparu gwybodaeth, asesiad, ymyrraeth a chefnogaeth i chi. Ni ddefnyddi’r y gwybodaeth ar gyfer unrhyw bwrpas arall.
Ein sail gyfreithiol dros wneud hyn o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ydi Erthygl 6(1) (c) oherwydd ei fod yn dasg gyhoeddus ac Erthygl 9(2)(h) am ei fod yn rhan o’n pwrpas iechyd a gofal cymdeithasol.
Beth rydym yn ei gasglu
Yn fras, byddwn yn casglu a chofnodi gwybodaeth fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni, manylion cyswllt a gwybodaeth addysgol / meddygol berthnasol.
Efo pwy byddwn yn rhannu’r wybodaeth
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth efo staff y Bwrdd Iechyd e.e. nyrsys a pediatryddon cymunedol, adrannau eraill Cyngor Gwynedd a lle bo angen efo ysgolion, colegau, meddygon teulu a meithrinfeydd.
Pa mor hir byddwn yn cadw’r wybodaeth
Rydym yn cadw’r wybodaeth am y cyfnodau a nodir yn ein polisi cadw. Ar ddiwedd y cyfnod, caiff y wybodaeth ei dinistrio’n ddiogel.
Eich hawliau
Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor: SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)