Mae’r Cyngor yn bartner yn y cynlluniau uchod, sef llety sy’n galluogi pobl hyn i fyw’n annibynnol ond hefyd lle mae gofal a chefnogaeth ar gael 24 awr y dydd.
Mae’r isod yn esbonio beth sy’n digwydd i’ch gwybodaeth os ydych yn gwneud cais i fod yn rhan o un o’r cynlluniau uchod.
Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu
Pan ydych yn gwneud cais i fod yn denant, rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i asesu eich anghenion.
Unwaith rydych yn denant rydym yn defnyddio eich gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i chi yn cyd-fynd efo’ch anghenion gofal.
Y sail gyfreithiol rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer hyn ydi tasg gyhoeddus o dan Erthygl 6(1)(e) GDPR.
Ar gyfer gwybodaeth iechyd a gwybodaeth sensitif arall, rydym yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(h) sef i bwrpas iechyd a gofal cymdeithasol.
Efo pwy yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth efo Grŵp Cynefin a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr , partneriaid y cynllun, er mwyn cydlynu eich anghenion gofal.
Nid yw eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag unrhyw un arall.
Nid ydym yn defnyddio unrhyw broseswyr data allanol.
Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio ar bapur ac ar system gyfrifiadurol am gyfnod o 6 mlynedd ar ôl marwolaeth.
Eich hawliau
Ewch i’r darn perthnasol ar y wefan Hawliau