Mae Gwasanaeth etholiadau Cyngor Gwynedd yn reolwr data o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gyfrifol am benderfynu sut rydym yn casglu, defnyddio a chadw data personol wrth gyflawni ein swyddogaethau statudol.

Pa ddata personol rydym yn ei brosesu

Er mwyn cynorthwyo cofrestru pleidleiswyr awtomatig, gallwn gasglu a phrosesu gwybodaeth fel eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, cenedligrwydd, a gwybodaeth adnabod o gofnodion cyhoeddus.

Pam rydym yn prosesu eich data personol

Rydym yn prosesu eich data i nodi pleidleiswyr cymwys, cynnal y gofrestr etholiadol, ac i gyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.

Sail gyfreithiol

Ein seiliau cyfreithiol dan GDPR y DU yw Erthygl 6(1)(c) (rhwymedigaeth gyfreithiol) ac Erthygl 6(1)(e) (tasg gyhoeddus). Lle mae data categori arbennig yn cael ei brosesu, rydym yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(g) ac Atodlen 1 o Ddeddf Diogelu Data 2018.

O ble rydym yn cael eich data

Gallwn dderbyn gwybodaeth gan DWP, CThEM, DVLA, sefydliadau addysgol, cymdeithasau tai neu wasanaethau mewnol y cyngor i nodi unigolion cymwys.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data

Gallwn rannu eich data gyda’r Comisiwn Etholiadol, Swyddog Cofrestru Etholiadol, ac adrannau cyhoeddus eraill fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Ni fyddwn yn rhannu eich Gwybodaeth tu allan I’r DU.

Cyfnod Cadw

Rydym yn cadw data personol yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, cyhyd ag y mae’n angenrheidiol ar gyfer y dibenion y’i casglwyd.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau gan gynnwys mynediad, cywiro, gwrthwynebiad, a chyfyngiad. Cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data i arfer yr hawliau hyn.

Cwynion

Os ydych yn anfodlon ar sut rydym wedi defnyddio eich data, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).