Pwrpas a sail gyfreithiol
Rydym yn prosesu eich data personol er mwyn ymateb i’ch cais gwybodaeth.
Y sail gyfreithiol dros hyn ydi erthygl 6(1)(c) y GDPR, sy’n ymwneud a phrosesu sy’n angenrheidiol ar gyfer cadw at ddyletswydd gyfreithiol.
Os ydi’r wybodaeth rydych yn ei darparu i ni yn cynnwys data categori arbennig, e.e. gwybodaeth am iechyd, rydym yn dibynnu ar erthygl 9(2)(g)y GDPR sy’n ymwneud a’n tasg gyhoeddus ac Atodlen 1 rhan 2(6) Deddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud a’n swyddogaethau statudol.
Beth sydd ei angen arnom a pham?
Rydym angen gwybodaeth gennych er mwyn ymateb i chi a dod o hyd i’r wybodaeth. Mae hyn yn ein galluogi i gadw at ein cyfrifoldebau statudol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (2016)
- Deddf Diogelu Data (2018)
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000)
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004)
Beth a wnawn efo’ch gwybodaeth?
Pan rydym yn derbyn eich cais, fe wnawn ni sefydlu ffeil achos electronig sy’n cynnwys manylion eich cais. Bydd hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall rydych wedi ei rhoi i ni. Byddwn yn hefyd yn storio copi o’r wybodaeth a gasglwyd er mwyn ateb eich cais.
Os ydych yn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol neu yn gweithredu ar ran rhywun arall, mae’n bosib byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth i brofi pwy ydych. Os yw’n berthnasol, fe wnawn ni hefyd ofyn i chi brofi fod gennych yr hawl i weithredu ar ran rhywun arall.
Pa mor hir rydym yn cadw eich manylion
I gael manylion am ba mor hir rydym yn cadw gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.
Beth yw eich hawliau
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r darn eich hawliau chi.