Y pwrpas a'r sail gyfreithiol dros brosesu

Mae Cyngor Gwynedd yn rhoi cefnogaeth i ffoaduriaid Wcráin trwy ddwy raglen:

  • Trwy gydlynu'r cynllun Cartrefi i Wcráin lle gall bobl gofrestru i noddi a chynnig lle yn eu cartrefi i unrhyw un sy'n ffoi o'r ymladd yn Wcráin i fyw am o leiaf chwe mis.
  • Rydym hefyd yn gweithio gyda chymdeithas tai Clwyd Alun i ddarparu Canolfan Groeso ym Mangor sy'n cynnwys darparu llety dros dro.

Byddwn felly'n prosesu data personol

  • Noddwyr unigol
  • Ffoaduriaid

Mae data personol y noddwyr yn cael ei brosesu er mwyn cynnal gwiriadau diogelu a DBS; i sicrhau bod y llety yn addas ac i brosesu'r taliad o £350 y mis.

Mae data personol y ffoaduriaid yn cael ei brosesu i roi cefnogaeth iechyd a lles iddynt; i dalu arian iddynt; ac i drefnu darpariaeth addysg pan fo angen.

Mae'r data personol yn cael ei brosesu dan Erthygl 6(1)(e), GDPR y DU - mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ddefnyddio awdurdod swyddogol a ymddiriedwyd i'r rheolydd, fel y nodir isod:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun Cenedl Noddfa sy’n ei dro’n adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn arbennig 'Cymru sy'n fwy cyfartal', 'Cymru o gymunedau cydlynol' a 'Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang'.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Ar gyfer data categori arbennig y sail gyfreithiol yw Erthygl 9(2)(g) rhesymau o fudd cyhoeddus sylweddol yn rhinwedd y ddeddfwriaeth uchod.

Ar gyfer y data ar euogfarnau troseddol, Erthygl 10 GDPR y DU trwy rinwedd Deddf Diogelu Data 2018 Atodlen 1 par 2, dibenion iechyd a gofal iechyd.

Categorïau o ddata a brosesir

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Gwiriadau DBS (ar gyfer y noddwyr)
  • Manylion Banc (ar gyfer y noddwyr)
  • Gwiriadau cofnodion gofal cymdeithasol (ar gyfer y noddwyr)
  • Gwybodaeth iechyd a lles (ffoaduriaid)
  • Manylion llety

Gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau neu broffilio awtomataidd.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu'r wybodaeth?

Ar gyfer y Cynllun Cartrefi i Wcráin, bydd y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r Groes Goch Brydeinig.

Ar gyfer y Ganolfan Groeso, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alun.

Pa mor hir yr ydym yn ei chadw?

Cedwir y wybodaeth hon yn unol â'n hatodlen gadw gwybodaeth.

Eich hawliau a manylion ar sut i gwyno

Gweler y rhan berthnasol ar ein gwefan: Cwynion

Gweler isod ddolen i Lywodraeth Cymru a Hysbysiadau Preifatrwydd y Swyddfa Gartref:

Cynllun Cartrefi i Wcráin: hysbysiad preifatrwydd | GOV.WALES (yn agor mewn tab newydd)

Wcrain: cynigion o gymorth: hysbysiad preifatrwydd | GOV.WALES (yn agor mewn tab newydd)

Homes for Ukraine visa sponsorship scheme: privacy notice - GOV.UK (www.gov.uk) (yn agor mewn tab newydd)