Ceisiadau Budd-dal Tai / Gostyngiad Treth Cyngor / Budd-daliadau Addysg
Pam ein bod angen eich gwybodaeth
Fel rhan o’r broses ceisio am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor, Budd-daliadau Addysg, Taliadau Tai Dewisol a Thaliadau Hunan Ynysu bydd Cyngor Gwynedd yn casglu data personol amdanoch chi a’ch teulu.
Bydd y wybodaeth a gesglir yn cynnwys manylion fel a ganlyn :
- Manylion amdanoch chi, eich cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni, cyfansoddiad y teulu, manylion incwm a cynilion.
- Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth berthnasol arall fydd ei angen ar gyfer prosesu eich cais megis gwybodaeth am rhent taladwy a manylion landlord.
- Cesglir manylion cyswllt megis rhifau teleffon, cyfeiriad e-bost ayyb er mwyn ein galluogi i gysylltu gyda chi rhag ofn bydd gennym angen eich holi am eich manylion.
Defnyddiwn y data i brosesu eich cais ac fe allwn fod angen gwirio rhan o’r manylion gyda phartneriaid eraill i sicrhau cywirdeb y data.
Cyfiawnhad dros ddefnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio eich manylion oherwydd bod gennym ddyletswydd o dan y sail gyfreithiol ganlynol:
- Ein dyletswydd gyfreithiol ar sail y ddeddfwriaeth ganlynol :
- Deddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol
- Rheoliadau Budd-dal Tai
- Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru)
- Deddf Cyllid Llywodraeth Leol - I atal/canfod trosedd, yn cynnwys cam gynrychioli yn unol â Deddf Twyll â’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodaeth) (Cymru).
- Eich caniatâd personol chi, y gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg gennych drwy ein hysbysu mewn ysgrifen. Nodwch, lle tynnir caniatâd personol yn ôl ni fydd eich cais am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth Cyngor a/neu Fudd-daliadau Addysg yn cael eu prosesu. Ni ellir tynnu caniatâd personol yn ôl mewn achosion lle mae trosedd yn cael ei atal.
Fe fydd y Cyngor yn defnyddio eich manylion ar gyfer penderfyniadau awtomatig er mwyn ymdrin yn ddiymdroi a chywir efo data a dderbynnir gan fudiadau eraill ar eich rhan (e.e. Adran Gwaith a Phensiynau) ac ar gyfer proffilio er mwyn creu sgôr risg ar gyfer eich cais er mwyn darganfod os oes angen ymyrraeth bellach gyda’ch cais cyn prosesu. Bydd hyn yn eich effeithio yn y dull canlynol :
- Penderfyniadau cyflymach
- Llai o ymholiadau
- Penderfyniadau cywir tro cyntaf
Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Fe allwn rannu eich data/manylion efo’r sefydliadau canlynol :
- Timau mewnol oddi fewn y Cyngor megis Treth Cyngor, Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cwsmer.
- Cynghorwyr, os ydynt yn eich cefnogi gyda’ch cais.
- Sefydliadau partneriaethau eraill megis Cymdeithasau Tai, Cyngor ar Bopeth, Shelter Cymru.
- Adran Gwaith a Phensiynau - Mae’r adran yma yn cydweithio efo awdurdodau lleol i rannu gwybodaeth a darparu gwasanaethau. Mae eu Siarter Gwybodaeth Bersonol ar gael ar Wefan GOV UK (yn agor mewn tab newydd) (nodwch fod y dudalen yma ar gael yn Saesneg yn unig).
- Sefydliadau Trydydd Parti lle ganiateir neu ble mae’n orfodol gan gyfraith i wneud hynny er mwyn atal a chanfod twyll a diogelu cyllid cyhoeddus. Fe all rhain gynnwys cynghorau lleol eraill ac adrannau o’r llywodraeth neu asiantaethau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus, megis Asiant Casglu Dyledion y Cyngor, Cyflogwyr, Adran Waith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM, yr Heddlu ar gyfer ymchwilio troseddau, a chydweddu data drwy’r Fenter Dwyll Cenedlaethol.
- Ar achlysuron, fe all fod yn angenrheidiol i’ch gwybodaeth gael ei weld gan ein cyflenwyr cefnogaeth TG wrth ddarparu cefnogaeth TG i’r isadeiledd a sustemau cysylltiol TG, ar gyfer y broses sydd wedi ei fynegi yn y rhybudd preifatrwydd hwn. Fe fydd y mynediad gan gefnogaeth TG ar gyfer achlysuron lle bydd angen cyweirio unrhyw fater technegol gyda’r meddalwedd, a bydd unrhyw edrych ar y data yn ddamweiniol.
Nid yw’r rhestrau uchod yn drwyadl.
Ni fyddwn fel arfer yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill heblaw ein sefydliadau partneriaid heb eich caniatâd.
Fodd bynnag, fe all fod rhai amgylchiadau arbennig lle bydd angen i ni rannu gwybodaeth heb ganiatâd, megis pan fyddwn yn cael ein gorfodi gan y gyfraith, i amddiffyn diogelwch cyhoeddus, ac mewn adeg lle mae risg o niwed neu achosion o argyfwng.
Rhennir unrhyw wybodaeth ar sail angen gwybod yn unig, gyda’r unigolion addas a gyda’r lleiafswm o wybodaeth ar gyfer y pwrpas.
Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich data personol i wlad arall.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth
Cedwir eich gwybodaeth am gyfnod lleiafswm sydd ei angen ar gyfer ein pwrpas.
Fe fydd y wybodaeth amlinellir yn y rhybudd hwn yn cael ei gadw hyd orffennir pob gweithred ar eich cais, a hyd y bydd y cyfnod mae’r Cyngor ei gadw am rhesymau cyfreithiol a phwrpasau archwilio wedi dod i ben.
Eich hawliau
I gael gwybod am eich hawliau a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data’r Cyngor, ewch i’r wefan (yn agor mewn tab newydd).