| Data | Pwrpas |
| Tocyn Dyfais | Cod unigryw tymor hir sy’n cael ei greu wrth fewngofnodi. Cael ei defnyddio fel nad oes rhaid mewngofnodi bob tro rydych yn defnyddio’r ap. Mae’r Tocyn Dyfais yn cael ei defnyddio i gynhyrchu Tocynnau Mynediad. |
| Tocynnau Mynediad(Fformat JSON Web Token sy’n cynnwys rhif sesiwn a rhif defnyddiwr unigryw) | Tocyn tymor byr sy’n cael ei defnyddio i gysylltu â gwasanaethau’r Cyngor, a rhoi gwybod iddynt pa gyfrif sy’n cael ei defnyddio, e.e. pan yn cyflwyno cais am wasanaeth. |
| Rhif Cyfeirnod Unigryw Eiddo | Cael ei defnyddio i gofio cyfeiriad y gwnaethoch ei ddewis yn ‘Lle dwi’n byw’. |
| Rhif Dyfais | Cael ei ddefnyddio ar gyfer anfon hysbysiadau i’ch dyfais. |
| Dewisiadau hysbysiadau | Cael ei ddefnyddio i gofio pa hysbysiadau rydych wedi dewis eu derbyn ar eich dyfais. |
| Cwcis | Mae rhai rhannau o’r ap yn defnyddi cwcis fel sydd ar wefan y Cyngor. Rhagor o wybodaeth am Cwcis(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd). |
Pwy arall fydd yn derbyn eich gwybodaeth
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Gwasanaethau eraill ar draws y Cyngor a rhai cyrff allanol er mwyn darparu gwasanaeth i chi. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gyda chyrff allanol heb fod rhaid.
Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofynnol i Gyngor Gwynedd, yn unol â'r gyfraith, ddiogelu'r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gallwn rannu gwybodaeth a roddir i ni â chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.