Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i’r gwasanaeth anableddau dysgu o fewn Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a ddarperir gan Gyngor Gwynedd. Dylid ei ddarllen yn ychwanegol â’r datganiad preifatrwydd gwasanaethau Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Pwrpas dros brosesu eich gwybodaeth?
- Rydym angen prosesu eich gwybodaeth er mwyn:
- Asesu anghenion gofal anableddau dysgu
- Er mwyn darparu’r pecyn gofal priodol
- Cael cyllid ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu
- Darparu gwiriadau Safe Scheme a gwiriadau Safe & Well
- Ymchwilio i gwynion
- Cefnogi a rheoli ein gweithwyr
- Defnyddir gwybodaeth ddienw yn seiliedig ar wybodaeth bersonol, ond heb ei chynnwys, ar gyfer cynllunio gwasanaethau ac adrodd ac adroddiadau ystadegol i’r Cyngor a’r Adran Iechyd
Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif. Mae gennych hawl gyfreithiol i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu cael ei thrin yn gyfrinachol a’i chadw’n ddiogel. Mae gan y Cyngor fesurau mewn lle sydd yn amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn yn ystod y broses yma.
Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol
Bydd y gwasanaeth yn casglu’r wybodaeth bersonol am ei fod yn ddyletswydd gyfreithiol arnom, gweler isod:
- Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Deddf Iechyd Meddwl 1983/2007
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005
- trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid 2009
- Deddf Gofal 2014
Ar gyfer gwybodaeth sensitif, ein sail gyfreithiol ydi’r angen i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth y gallwn ei gasglu
- Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol
- Manylion ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
- Rhif Cyfeirnod personol e.e. rhif Gwasanaeth Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
- Manylion cyflogwr
- Manylion teulu (Mewn achosion pan nad oes gan y cwsmer allu meddyliol, a Benodwyd a/neu rhai gydag Atwrneiaeth Arhosol.)
Sefyllfa ariannol e.e. incwm, gwariant, manylion banc
- Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
- Barn a Phenderfyniad
- Cofnod o gwynion blaenorol
- Ymddangosiad personol ac ymddygiad
Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn prosesu gwybodaeth sensitif (categori arbennig), sy’n berthnasol i achosion unigol, ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd meddwl, a allai gynnwys rhai o’r canlynol, ymhlith eraill:
- Manylion iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
- Tarddiad hiliol neu ethnig
- Credoau crefyddol neu gredoau eraill
- Troseddau (gan gynnwys troseddau honedig), achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau
- Ymlyniad gwleidyddol / barn
- Tueddfryd Rhywiol
- Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?
Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:
- Yr Heddlu
- Iechyd gan gynnwys – Meddygon Teulu, Ysbytai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Cartrefi Gofal
- Caiff data ystadegol, dienw ei rannu gyda NHS Digital
- Aseswyr Lles Gorau Annibynnol ac Aseswyr Iechyd Meddwl
Cynrychiolwyr sy’n gweithredu ar eich rhan pe na bai gennych allu i wneud penderfyniadau am eich gofal. Gan gynnwys ymhlith eraill:
- Eiriolydd Galluedd Meddyliol Annibynnol;
- Rhai sydd ag Atwrneiaeth Arhosol
- Dirprwy a Benodwyd gan y Llys
- Cynrychiolydd enwebedig/aelod teulu agosaf
- Aelodau eraill o’r teulu sydd â diddordeb yn eich iechyd meddwl a’ch gofal
- Llys Gwarchod
- Gwasanaethau Diogelu Sir Conwy
- Tîm(timau) oedolyn priodol/gofal cymdeithasol i blant
- Gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel bo’n briodol gan gynnwys
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu felly oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.
Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd y gwasanaeth yn cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol. Bydd hyn fel rheol yn isafswm o chwe blynedd. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth os gwelwch yn dda.
Ar ôl y cyfnod cadw, bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel.
Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch?
Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth bersonol mae’r gwasanaeth yn ei chadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu gadael i chi weld y wybodaeth, neu ran ohoni, oherwydd:
- ei bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu fod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall
Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.
Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?
- Lawrlwythwch y ffurflen gais mynediad i wybodaeth bersonol
- Anfonwch lythyr neu e-bost atom
- Holwch ar lafar
Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych chi.
Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe wnawn wedyn brosesu’ch cais mewn 1 mis, neu mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod hwn i 2 fis os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Sut i gysylltu â ni?
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
Swyddog Gwybodaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Ffôn: 01286 679 223
- E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad: Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.