Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: Datganiadau preifatrwydd

Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau sut a pha wybodaeth mae’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn ei chadw am unigolyn.

Pam ydym yn casglu’r wybodaeth?

Rydym angen defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:

  • asesu eich anghenion gofal cymdeithasol a thrafod y gwasanaethau sydd ar gael i gwrdd â’r anghenion hynny, trafod yr hyn sydd yn bwysig i chi a chydweithio i gytuno ar gefnogaeth sydd yn cwrdd â’ch amcanion personol
  • monitro ac adolygu eich cynnydd a’ch gofal mewn perthynas â chwrdd â’ch amcanion personol
  • darparu gofal a chefnogaeth
  • ymchwilio i gwynion
  • edrych ar ansawdd gwasanaethau

Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif. Mae gennych hawl gyfreithiol i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol a’i chadw’n ddiogel. Mae gan y Cyngor fesurau mewn lle sydd yn amddiffyn preifatrwydd yr unigolyn yn ystod y broses yma.

Cyfiawnhad dros Gasglu a Chofnodi Gwybodaeth Bersonol

Bydd Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd yn casglu’r wybodaeth bersonol am ei fod yn ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae prosesu’r wybodaeth bersonol yma yn angenrheidiol i’r Adran:

1.ar gyfer ymateb i anghenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 
2. am ei fod yn ymgymryd â thasg sydd er budd cyhoeddus

Ni fydd yr Adran yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu

  • Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teuluol
  • Manylion ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol (mewn rhai achosion)
  • Rhif Cyfeirnod personol e.e. rhif Gwasanaeth Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
  • Manylion cyflogwr
  • Sefyllfa ariannol e.e. incwm, gwariant, manylion banc
  • Ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol
  • Cofnod o gwynion blaenorol
  • Adroddiadau diogelu
  • Manylion Pŵer Atwrnai
  • Gwybodaeth feddygol
  • Amgylchiadau personol e.e. statws llety
  • Darlun o edrychiad, disgrifiad edrychiad ac ymddygiad
  • Manylion iechyd corfforol a meddyliol
  • Hil ac ethnigrwydd
  • Credoau crefyddol
  • Troseddau, achosion yn eich erbyn, canlyniadau a dedfrydau
  • Tueddfryd rhywiol

Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser.

Mae rhai mathau o wybodaeth yn sensitif e.e. iechyd, hil, ethnigrwydd, credoau crefyddol. Y sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon ydi oherwydd ein bod yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu’r wybodaeth?

Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i’r Cyngor rannu eich gwybodaeth gyda phartneriaid allanol a thrydydd sector os yw’n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Adrannau eraill y Cyngor
  • Cynghorau eraill
  • Darparwyr trydydd sector
  • Adrannau’r Llywodraeth fel yr HMRC a’r DWP
  • Yr Heddlu
  • Asiantaethau Credyd
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Y Gwasanaeth Prawf
  • CSIW
  • Asiantaethau a Darparwyr Tai
  • Cartrefi Gofal Preswyl
  • Cwmnïau Gwasanaeth Gofal Cymunedol
  • Cynrychiolydd sydd yn gweithredu ar ran unigolyn mewn mater lle nad oes gan y person y gallu i wneud ei benderfyniadau ei hun
  • Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • Banciau a Chymdeithas Adeiladu
  • Bwrdd Diogelu Oedolion
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Caiff gwybodaeth ei rhannu mewn achosion o wir angen, ble gallwn wella ar y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig i’r unigolyn. Ni chaiff y wybodaeth ei rhannu felly oni bai fod angen cyfreithiol i wneud. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad arall.

Pa mor hir fyddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd yr Adran yn cadw eich gwybodaeth dim ond cyhyd ag sy’n angenrheidiol. Mae gennym restr o gyfnodau cadw ar gyfer gwaith yr Adran. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Swyddog Gwybodaeth os gwelwch yn dda.
Ar ôl y cyfnod cadw, bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel.

Allwch chi weld pa wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanoch?

Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth bersonol mae’r Adran yn ei chadw amdanoch. Mewn rhai amgylchiadau, ni fyddwn yn gallu gadael i chi weld y wybodaeth, neu ran ohoni, oherwydd:

  • ei bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu

fod gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol yr unigolyn neu rywun arall; neu

  • mewn amgylchiadau ble bydd gwybodaeth fusnes sensitif

Os na allwn roi mynediad i chi at eich gwybodaeth byddwn yn egluro’r rheswm dros wrthod.

Sut ydw i’n gwneud cais i weld y wybodaeth mae’r Adran yn ei chadw amdanaf?

  • Lawrlwythwch y ffurflen gais mynediad i wybodaeth bersonol
  • Anfonwch lythyr neu e-bost atom
  • Holwch ar lafar

Fel arfer, byddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf i brofi pwy ydych chi.

Unwaith y byddwn wedi derbyn prawf o’ch hunaniaeth, fe wnawn wedyn brosesu’ch cais mewn 1 mis, neu mae gennym hawl i ymestyn y cyfnod hwn i 2 fis os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

Sut i gysylltu â ni?

Am fwy o wybodaeth, neu os ydych yn dymuno derbyn ffurflen gais ar e-bost neu yn y post, cysylltwch â ni ar y manylion isod:

Swyddog Gwybodaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

  • Ffôn: 01286 679 223
  • E-bost: gcgc@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad:Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Sut i gael mwy o wybodaeth am eich hawliau?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Datganiadau Preifatrwydd a Chwcis.