Mae angen i’r Cyngor gasglu a defnyddio gwybodaeth am unigolion er mwyn darparu gwasanaethau. Deddfwriaeth diogelu data sy’n sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn briodol.
Cais am eich gwybodaeth bersonol
Mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch fel unigolyn. Nid oes ffi am wneud hyn.
Mae angen i ni ymateb o fewn mis i dderbyn y cais neu unrhyw eglurhad sydd ei angen o’r wybodaeth rydych eisiau. Os ydi’r cais yn gymhleth neu bod llawer ohonynt, gallwn roi 2 fis ychwanegol ond bydd rhaid i ni sgwennu atoch o fewn un mis yn egluro pam.
Byddwch yn cael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi neu byddwn yn rhoi gwybod i chi nad oes gan y Cyngor unrhyw wybodaeth amdanoch chi.
Pethau y byddwn yn rhannu hefo chi:
Pwrpas y prosesu
Pwy fydd yn derbyn y wybodaeth
Categorïau o ddata personol
Ffynhonnell y wybodaeth
Am ba mor hir fyddwn yn cadw'r data
Yr hawl i wneud cwyn
Gwybodaeth am hawliau i gywiro, dileu, gwrthwynebu neu gyfyngu prosesu
Os ydi chi wedi bod yn destun proses gwneud penderfyniadau yn awtomatig neu broffilio
Mae’n bosib na fyddwn yn medru rhoi gwybodaeth i chi - sef gwybodaeth bersonol a fyddai’n amharu ar y gallu i atal neu ddatrys troseddau; cyngor cyfreithiol rydym wedi ei dderbyn neu ddata personol a fyddai’n adnabod person arall ac nid ydym wedi derbyn eu caniatâd I ddatgelu’r wybodaeth yma.
Os yw ceisiadau yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol (yn arbennig os ydynt yn rhai ailadroddus), byddwn yn codi ffi rhesymol am y costau gweinyddol neu yn gwrthod delio efo’r cais.
Mae’n ofynnol i ni fel Cyngor ddweud wrthych sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae datganiadau preifatrwydd gwasanaethau’r Cyngor ar gael yma
Bwriad Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yw gwneud rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau yn haws.
Mae’r Cyngor wedi cytuno i greu cytundebau rhannu gwybodaeth efo partneriaid er mwyn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n deg a diogel.