Mae'r Ddeddf hon yn rhoi'r hawl i chi gael gwybodaeth gan gyrff cyhoeddus mewn dwy ffordd:

  • Trwy'r Cynllun Cyhoeddi sef dogfen sy'n dangos y math o wybodaeth a gyhoeddir gan y Cyngor, ffurf y wybodaeth ac a oes ffi am y wybodaeth honno neu
  • Trwy wneud cais penodol am wybodaeth (gweler manylion isod).

Gwneud cais penodol am wybodaeth

Os nad yw'r wybodaeth eisoes yn y Cynllun Cyhoeddi, gallwch neud cais ar-lein:

Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd)

Gweld eithriadau

Neu ysgrifennu at yr Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data gan roi eich enw a'ch cyfeiriad a dweud pa wybodaeth yr hoffech ei gweld.

  • E-bost: RhyddidGwybodaeth@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data, Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Beth sy'n bwysig i gynnwys yn y cais?

Dylech gynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion Cyswllt (Rhif ffôn, ebost)
  • Disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei angen. e.e. cynnwys dyddiadau.

Cofiwch

  • Nodi fod eich cais yn gais Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Amgylcheddol
  • Edrych ar y wefan ac yn y Cynllun Cyhoeddi rhag ofn fod y wybodaeth ar gael yn barod
  • Geisio darganfod i bwy ac ym mha adran fyddwch angen gyrru’r cais
  • Ddefnyddio iaith glir a chwrtais oherwydd mae cynnwys cais mewn ffurf cwyn yn cymhlethu’r broses
  • Roi cyfle i’r awdurdod brosesu’r cais cyn mynd ati i wneud un arall
  • Peidiwch â defnyddio’r cais i gwyno yn erbyn aelodau staff
  • Peidiwch â defnyddio cais i geisio ail-agor cwynion sydd wedi eu datrys
  • Peidiwch â defnyddio cais i geisio darganfod gwybodaeth mewn gobaith o ddarganfod rhywbeth wrth lwc. Dylai pob cais gael pwrpas penodol.

Beth sy’n digwydd wedyn?

Byddwn yn cydnabod eich cais cyn gynted ag y bo modd. Os nad ydym yn sicr pa wybodaeth yn union sydd gennych dan sylw, fe wnawn ni gysylltu efo chi i drafod eich gofynion.


Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?

Mae gennym hyd at 20 diwrnod gwaith o’r dyddiad derbyn i ymateb. Os oes angen i ni gysylltu efo chi i gael eglurhad pellach, ni fydd yr 20 diwrnod yn cychwyn nes i ni gadarnhau yn union pa wybodaeth yr hoffech ei chael.
Os oes angen i ni ymestyn y cyfnod (er mwyn ystyried rhai eithriadau), fe wnawn ni roi gwybod i chi a’ch hysbysu o’r dyddiad ymateb diwygiedig.


Oes yna unrhyw reswm pam na chaiff gwybodaeth ei darparu?

Nid oes raid i ni ymateb i geisiadau niferus neu flinderus neu rai sydd y tu hwnt i’r trothwy cost (wele isod).

Gallwn hefyd wrthod datgelu gwybodaeth os yw un o'r eithriadau a geir o dan y Ddeddf yn berthnasol. Os ydym yn gwrthod eich cais, byddwn yn datgan pa eithriad yr ydym wedi ei ddefnyddio a phaham.


Ffurf y wybodaeth

Os ydych yn gofyn am gael y wybodaeth mewn ffurf arbennig (e.e. copi caled, ar dâp, Braille), neu am alw heibio swyddfeydd i weld y cofnodion sy’n cynnwys yr wybodaeth, byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais os yw hynny’n rhesymol ymarferol.
A fyddech cystal â nodi ym mha ffurf yr hoffech dderbyn y wybodaeth wrth wneud eich cais.


Fydd rhaid i mi dalu?

Mae mwyafrif y ceisiadau yn rhad ac am ddim.
Fodd bynnag, os yw’n debygol o gymryd mwy na 2.5 diwrnod i ganfod, didoli a golygu dogfennau er mwyn ymateb i’ch cais (sef cost o £450 wedi ei gyfrifo ar £25 yr awr) yna nid oes raid i ni ateb.
Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais ac yn gofyn i chi ei addasu trwy, e.e. ofyn am lai o wybodaeth. Bwriad hyn yw ceisio dod â’ch cais o dan y trothwy cost. Os nad oes modd gwneud hyn yna mae’n bosib na fyddwn yn ateb y cais.
O ran ceisiadau sy’n costio llai na £450, ni fyddwn yn codi tâl a bydd costau postio/argraffu ayyb. hefyd yn rhad ac am ddim os ydynt yn llai na £10.


Beth os nad ydw i’n fodlon efo’r ateb?

Os nad ydych yn fodlon gyda'r ateb yna dylech gysylltu efo’r person sydd wedi ei enwi yn y llythyr ateb. Bydd ef/hi yn cynnal adolygiad mewnol trwy ailystyried eich cais ac naill ai’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, yn ei wyrdroi neu yn ei wyrdroi’n rhannol.
Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb yn dilyn hynny, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad allanol trwy gysylltu gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth (yn agor mewn tab newydd). Bydd un o swyddogion y Comisiynydd wedyn yn ymdrin â’r adolygiad ar eich rhan.


Eithriadau

Fe gewch weld unrhyw wybodaeth gan y Cyngor, ond fe geir eithriadau ar gyfer gwybodaeth a ddylai fod yn gyfrinachol. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch eich hun - ceir gwybodaeth am hynny yn yr adran Ddeddf Diogelu Data.

Eithriadau llwyr

a21 Gwybodaeth sydd ar gael fel arall, sef gwybodaeth y mae’n gymharol hawdd i’r cyhoedd ei gweld trwy ffordd arall heblaw Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

a32 Cofnodion Llys, megis dogfennau sydd wedi’u ffeilio neu eu rhoi yn nwylo’r llys.

a40 Gwybodaeth bersonol am yr unigolyn sy’n gwneud cais – ymdrinnir â’r cais o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

a41 Gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol gan unrhyw un

a44 Gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu er enghraifft dan ddeddfwriaeth; y byddai ei datgelu’n golygu dirmyg llys neu yn anghydnaws ag unrhyw un o ymrwymiadau’r Gymuned Ewropeaidd.

Eithriadau lle mae’n rhaid defnyddio “prawf lles y cyhoedd”

Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod un neu ragor o’r eithriadau yn berthnasol, mae’n rhaid iddo ddatgelu’r wybodaeth oni bai ei fod yn penderfynu bod ‘lles y cyhoedd’ yn mynnu bod angen glynu at yr eithriad.

a22 Gwybodaeth a fwriadwyd i’w chyhoeddi yn y dyfodol h.y. mewn amgylchiadau lle mae’n rhesymol i beidio â datgelu’r wybodaeth hyd y diwrnod y bwriedir ei chyhoeddi.

a30 Gwybodaeth yn ymwneud ag ymchwiliadau ac achosion llys a ymgymerir gan awdurdod cyhoeddus megis gwybodaeth am ymchwiliadau ac achosion troseddol a gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau cyfrinachol ar gyfer achosion llys troseddol neu sifil.

a31 Gwybodaeth yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith

a33 Gwybodaeth yn ymwneud â swyddogaethau archwilio

a36 Gwybodaeth a fyddai’n niweidio’r gwaith o ymdrin â materion cyhoeddus yn effeithiol

a38 Gwybodaeth lle byddai ei datgelu yn peryglu iechyd corfforol neu feddyliol neu ddiogelwch unrhyw unigolyn

a39 Gwybodaeth am yr amgylchedd – yn dod o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

a40 Gwybodaeth bersonol ynghylch trydydd parti – pe bai ei datgelu’n mynd yn groes i egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data

a42 Gwybodaeth sy’n dod o dan fraint gyfreithiol broffesiynol

a43 Gwybodaeth am fuddiannau masnachol lle mae’r wybodaeth yn gyfrinach fasnachol neu pe byddai ei datgelu yn niweidio neu’n debygol o niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn.