Mae gan holl aelodau etholedig awdurdodau lleol Cymru hawl i gael cyflog blynyddol sylfaenol.
Mae aelodau sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, fel aelod gweithredol neu gadeirydd pwyllgor, yn derbyn cyflogau uwch. Mae treth incwm yn cael ei godi ar y taliadau hynny ac fe gaiff treuliau rhesymol eu talu hefyd.(Cyhoeddir manylion y taliadau sy'n cael eu gwneud i aelodau unigol ar waelod y dudalen hon.)
Pwy sy’n penderfynu ar y tâl?
Mae cyflogau a threuliau aelodau'n cael eu pennu gan gorff annibynnol, sef Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (yn agor mewn tab newydd). Mae’r Panel hwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi'r cyflogau a’r treuliau sydd i’w talu i gynghorwyr.
- Panel annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol 2025 i 2026 (yn agor mewn tab newydd)
- Panel annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol 2024 i 2025 (yn agor mewn tab newydd)
Oes cefnogaeth arbennig ar gael?
Oes. O dan ddeddfwriaeth mae'n rhaid i awdurdodau ddarparu ar gyfer aelodau gydag anghenion cymorth penodol, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr. Gall aelodau etholedig hefyd hawlio ad-daliad costau gofal i ddarparu gofal i ddibynyddion pan fyddant yn ymgymryd â'u dyletswyddau.
Pam bod aelodau yn cael eu talu?
Mae Cynghorwyr yn cael eu talu er mwyn rhoi cyfle i bawb wasanaethu fel aelod etholedig. Mae Cynghorwyr yn cynrychioli buddiannau etholwyr ac yn mynychu cyfarfodydd. Mae hyn yn cymryd llawer o amser, a gallai olygu colled ariannol. Heb dâl, yr unig bobl allai ymgeisio i fod yn gynghorwyr fyddai’r rhai sydd ddim yn gweithio neu sydd â llawer o amser rhydd.
Faint o gyflog a threuliau mae aelodau'n eu derbyn?
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2025-26 (yn agor mewn tab newydd)
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2024-25
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24 (yn agor mewn tab newydd)
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2022-23
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2021 - 22
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2020 - 21
- Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2019 - 20
Cyflogau a threuliau mae aelodau wedi'u derbyn:
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2024-25 (yn agor mewn tab newydd)
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2023-24
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2022-23
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2021-22 (yn agor mewn tab newydd)
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2020 - 21
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2019 - 20 (yn agor mewn tab newydd)
- Gweld lwfansau a dalwyd i Gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig ar gyfer 2018 - 19
Mae’r uchod yn cyd-fynd â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Am fwy o wybodaeth..
Os oes gennych ymholiad neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni: