Mae’r gyfradd LTL sy’n berthnasol i chi yn dibynnu ar ba ardal LTL rydych yn byw ynddi o fewn Gwynedd, a’r nifer ystafelloedd gwely yr ydych eu hangen yn ôl y rheolau.

Mae'r ardaloedd LTL yn cael eu galw yn Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang [AMRE], ac mae dwy ardal o fewn Gwynedd, sef:

Mae’r ardaloedd [AMRE] a’r cyfraddau LTL yng Nghymru yn cael eu sefydlu gan y Gwasanaeth Swyddog Rhenti, sydd yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn hollol annibynnol o Gyngor Gwynedd. Os nad ydych yn sicr ym mha ardal AMRE rydych chi'n byw, cysylltwch â ni:

Cyfraddau LTL: 2026

Mae’r cyfraddau LTL yn cael eu sefydlu yn flynyddol o’r 1af o Ebrill pob blwyddyn. Mae’r graddfeydd wythnosol yma yn berthnasol o 1 Ebrill 2026:

Cyfraddau LTL yn seiliedig ar Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang (AMRE) a maint yr eiddo sydd ei angen
Maint yr eiddo sydd ei angenGogledd Orllewin CymruDe Gwynedd
1 ystafell wely - rhannu cyfleusterau78.8078.80
1 ystafell wely - hunan gynhaliol90.0080.55
2 ystafell wely126.58100.00
3 ystafell wely143.84125.00
4 ystafell wely172.60155.34

Mae cyfraddau LTL Gwynedd hefyd ar gael mewn fformat PDF hawdd eu hargraffu. Cliciwch ar yr atodiad isod i agor y ddogfen ar ffurf PDF: