Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru

Benthyciadau di-log o £1,000 i £25,000 i gynorthwyo perchnogion eiddo sydd angen gwaith adnewyddu.

Ar gael i berchnogion preswyl, landlordiaid, datblygwyr ac elusennau i gynorthwyo gyda gwneud cartref yn gynnes a diogel.

Rhaid ad-dalu pob benthyciad erbyn 31 Mawrth 2030.


Benthyciad gwaith hanfodol

Grant gwirfoddol o hyd at £15,000 i ymgymryd ag atgyweiriadau hanfodol. Bydd rhaid i ymgeiswyr fod ar incwm isel (mae prawf modd yn berthnasol)  neu yn derbyn budd-daliadau penodol. Bydd rhaid i’r gwaith fod yn Berygl Categori 1 (sef perygl sydd yn debygol o achosi niwed difrifol i’r preswylwyr). Bydd rhaid ad-dalu y benthyciad yn llawn heb eithriad pan waredir yr eiddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod. Mae'r benthyciad hwn trwy wahoddiad yn unig.

Siop Un Stop Tai

Siop un Stop o holl wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.

Cyfeiriad post: Tai Sector Preifat, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlâg Dolgellau Gwynedd LL40 2YB