Caniatâd draenio tir cyrsiau dŵr cyffredin

Mae Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am awdurdodi caniatâd i unigolion, cwmnïau, grŵp o unigolion a chyrff cyhoeddus, sy'n dymuno ymgymryd â newidiadau i gwrs dŵr cyffredin sy’n gallu effeithio ar y llif neu fod yn risg llifogydd. Gelwir y caniatâd yma yn Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin (Ordinary Watercourse Consent).

O dan Adran 23 a 25 Deddf Draenio Tir 1991, mae codi neu newid argae melin, cwlfert, cored neu rwystr tebyg neu unrhyw waith all effeithio ar lif unrhyw gwrs dŵr cyffredin angen caniatâd gan y Prif Awdurdodau Atal Llifogydd (PAAL). Mae'r prif afonydd yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r rheoleiddio yn cynnwys dwy elfen:

  • cyflwyno caniatâd am unrhyw newidiadau i gyrsiau dŵr cyffredin a all fod yn rhwystr neu sy’n newid llif cwrs dŵr cyffredin;
  • camau gorfodaeth i gywiro unrhyw waith anghyfreithlon ac a fedrai fod yn niweidiol i gwrs dŵr.