Gyda’r dyddiad cau yn agosáu, mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl a chymunedau Gwynedd i beidio colli’r cyfle i ddweud eu dweud ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr.
Mae modd cwblhau’r holiadur ar-lein ac mae copïau papur ar gael o llyfrgelloedd y sir ac o brif swyddfeydd y Cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
Rydym yn nesáu at ddiwedd y cyfnod ymgynghori, ond mae dal digon o amser i bobl ddweud eu dweud. Bydd derbyn adborth yn helpu cynghorwyr i wneud penderfyniad deallus am y mater pwysig hwn.
Mae’r sector dwristiaeth yn rhan bwysig o economi Gwynedd ac yn cael effaith fawr ar ein cymunedau felly mae’n bwysig fod pawb yn cael y cyfle rannu barn.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd nes 26 Gorffennaf 2026.
I gymryd rhan:
- Ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud
- Holwch am gopi papur yn un o lyfrgelloedd y sir neu un o’r tair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli, Dolgellau).
- Gellir gneud cais am holiadur drwy’r post drwy ffonio 01766 771000.
Mae gwybodaeth gefndirol a dogfennau perthnasol ar gael ar wefan y Cyngor: Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Gwynedd - Cyngor Gwynedd