Bydd gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer plant 2 oed cymwys ar gael yng Ngwynedd o 2 Tachwedd 2026.
Bydd rhaid i rieni a gofalwyr lenwi ffurflen gais a darparu tystiolaeth eu bod yn byw yng Ngwynedd, ynghyd â thystiolaeth o ddyddiad geni’r plentyn.
Dim ond drwy ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru i ddarparu lleoedd gofal plant wedi eu hariannu ar gyfer plant 2 oed y gellir cael mynediad at y cyllid.
Beth fydd ar gael?
Mae gan blant yr hawl i 12.5 awr yr wythnos (sesiwn 2.5 awr y diwrnod, hyd at 5 diwrnod yr wythnos) yn ystod tymor ysgol, gyda 1 darparwr gofal plant.
Os ydych eisoes yn derbyn gofal plant Dechrau’n Deg, neu Gofal Plant 2 oed wedi ariannu, nid ydych yn gallu ymgeisio am oriau ychwanegol.
Pryd all plentyn dderbyn gofal plant 2 oed?
Gall plentyn dderbyn gofal plant 2 oed o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 2 oed hyd at ddiwedd y tymor maent yn troi’n 3 oed
| Dyddiad mae'r plentyn yn troi yn 2 oed | Dyddiad gall plentyn ddechrau dderbyn gofal plant 2 oed | Yr adeg y gallwch wneud y cais |
| 1 Medi i 31 Rhagfyr | Dechrau tymor y gwanwyn | Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr |
| 1 Ionawr i 31 Mawrth | Dechrau tymor yr haf | Rhwng mis Chwefror a mis Mawrth |
| 1 Ebrill i 31 Awst | Dechrau tymor yr hydref | Rhwng mis Mai a mis Awst |
Gweld dyddiadau tymor ysgol Gwynedd
Gwneud cais
Pwysig: Rhaid i chi wirio os yw’r darparwr gofal plant perthnasol wedi cofrestru i ddarparu lleoedd gofal plant wedi eu hariannu ar gyfer plant 2 oed, ac os oes lle ar gael, cyn i chi gyflwyno eich cais.
Ffurflen gais ar-lein: Cais Gofal Plant 2 oed (yn agor mewn tab newydd)Noder:
- Bydd gofyn i chi atodi dogfennau (llun / sgan) fel tystiolaeth o oed a chyfeiriad y plentyn. Bydd angen atodi: tystysgrif geni eich plentyn, a bil Treth Cyngor cyfredol, NEU fil cyfleustodau wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf. Ni fydd eich cais yn cael ei gysidro heb y dogfennau hyn.
- Arhoswch am gadarnhad bod eich cais wedi gymeradwyo (o fewn 15 diwrnod gwaith fel arfer).
- Yn dilyn derbyn e-bost gyda linc, mewn gofnodwch i’r sustem ar-lein i ddewis eich darparwr gofal plant.
- Bydd Cyngor Gwynedd yn cadarnhau os oes lle i’ch plentyn gyda’r darparwr gofal plant o’ch dewis.
Mwy o wybodaeth / cysylltu â ni
- 01248 352436 neu 01286 678824
- gofalplant2oed@gwynedd.llyw.cymru
