Hwb i'r celfyddydau yng Ngwynedd

Mae buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn mynd i roi hwb i ddau safle diwylliannol pwysig yng Ngwynedd, sef Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy a Llyfrgell Caernarfon.

Mae’r ddau leoliad ymhlith 31 o brosiectau ledled Cymru sydd wedi sicrhau cyfran o gyllid newydd gyda’r nod o wella mynediad at ddiwylliant, diogelu casgliadau a moderneiddio cyfleusterau er budd cymunedau lleol.

Bydd Amgueddfa Lloyd George yn derbyn dros £150,000 i ddiogelu a gwarchod bwthyn Highgate, cartref plentyndod cyn Brif Weinidog y DU, David Lloyd George, ynghyd â’i gasgliadau. Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i wella profiad ymwelwyr, gyda’r bwriad o ailagor Highgate fel rhan lawn o’r atyniad yn ystod Gwanwyn 2027.

Yn y cyfamser, mae Llyfrgell Caernarfon wedi sicrhau £500,000 ar gyfer prosiect trawsnewid uchelgeisiol. Bydd y cynllun yn cynnwys mynediad newydd croesawgar, gwell defnydd o’r gofod mewnol, ardal benodol i blant a phobl ifanc, canolfan gymunedol newydd a gwell cyfleusterau hygyrch. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni’r adeilad a lleihau costau gweithredu.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned, fod y cyllid yn sicrhau bod diwylliant a hanes yn parhau i fod o fewn cyrraedd i bobl leol ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

Meddai:

“Rwy’n croesawu’n fawr y buddsoddiad diwylliannol hwn gan Lywodraeth Cymru i’r ddau leoliad. Mae’r cynlluniau’n gyffrous, a heb os, bydd y cyllid hwn yn sicrhau fod diwylliant a hanes o fewn gafael pobl leol ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

“Edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau wedi’u cwblhau.”

Dywedodd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Heledd Fychan, fod y buddsoddiad yn hanfodol i ddiogelu treftadaeth Cymru a chreu mannau modern, hygyrch sy’n gwasanaethu cymunedau lleol nawr ac yn y dyfodol.

Meddai:

“Mae'r buddsoddiad hwn i’w groesawu. Mae Amgueddfa Lloyd George yn adrodd hanes un o ffigyrau arwyddocaol Cymru yn hanes gwleidyddol Prydain, a bydd y cyllid hwn yn helpu i ddiogelu'r adnodd yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Yn y cyfamser, bydd trawsnewid Llyfrgell Caernarfon yn creu gofod modern, hygyrch yng nghanol y gymuned, o fynedfa newydd groesawgar i ardaloedd pwrpasol i blant a phobl ifanc.

"Mae buddsoddiad parhaus yn ein hamgueddfeydd a'n llyfrgelloedd yn hanfodol i greu mannau bywiog sy'n gwasanaethu pobl heddiw ac am flynyddoedd i ddod.”