Amgueddfa Lloyd George

Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0SH

Mae'r eitemau yn Amgueddfa Lloyd George a Highgate, cartref ei blentyndod, yn ein helpu i ddeall bywyd ac amseroedd y cyn-Brif Weinidog o 1863 - 1945.

Yma gallwch weld arddangosfa unigryw o wrthrychau yn adrodd ei stori – casgedau a sgroliau wedi'u haddurno'n wych ac yn unigryw a gyflwynwyd iddo fel anrhydeddau dinas, megis model arian syfrdanol o Gastell Cricieth a gyflwynwyd gan y dref.

Arddangosir hefyd, medalau, paentiadau, lluniau, dogfennau fel Cytundeb Versailles, 'Coron Lloyd George' (y pensiwn cyntaf a ddosbarthwyd yng Nghymru), gwisgoedd ac eitemau personol.

Dysgwch sut y daeth Lloyd George i sylw cenedlaethol oherwydd giât oedd dan glo yn Llanfrothen a chael golwg ar helmed y plismon a wisgodd Lloyd George i ddianc rhag torf blin yn Birmingham. Cyfle hefyd i ymweld â’r ardd lle tyfodd Lloyd George lysiau fel plentyn, a gweld gosodiad celf 'Rhif 10'.


Oriau agor

Mae’r Amgueddfa ar agor rhwng Pasg a’r Hydref. Rydym yn argymell eich bod yn ffonio cyn ymweld.

Oriau agor
MisOriau agor
Ebrill – Mai10:30 - 17:00
Llun – Gwener
(Sadwrn a Sul hefyd ar benwythnos Gŵyl Banc)
Mehefin10:30 - 17:00
Llun – Sadwrn
Gorffennaf, Awst a Medi10:30 - 17:00
Llun – Sul
Hydref10:30 - 16:00
Llun-Gwener

Mynediad olaf un awr cyn cau

Pris Mynediad

Prisiau
OedranPris
Oedolion£9.00
Plant£4.50
Rhai dros 65 / Myfyrwyr£7.50
Tocyn Teulu£20.00

Cysylltu â ni


Mwy o wybodaeth