Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yng Ngwynedd - Beth sydd ar garreg eich drws?

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2026 (1 Hydref) rydym yn lansio ymgyrch i ymgysylltu â phobl hŷn ledled y sir a chlywed mwy am yr hyn sy’n bwysig iddynt yn eu cymunedau.

I gyd-fynd â thema’r flwyddyn, bydd y ymgyrch yn holi am beth sydd "ar garreg drws" pobl hŷn yn lleol gan gynnwys:

  • pa bobl, lleoedd, gweithgareddau a gwasanaethau sy'n bwysig iddynt;
  • pa rwystrau sy'n eu hatal rhag cael mynediad atynt;
  • beth sydd ar goll neu angen ei wella.

Bydd y sgyrsiau yn helpu’r Cyngor i greu darlun o gryfderau cymunedau Gwynedd, deall beth sy’n rhwystro pobl hŷn rhag manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, ac adnabod yr hyn sydd ei angen neu y gellid ei wella. Bydd hefyd yn sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn dylanwadu ar waith Gwynedd Oed-Gyfeillgar ac ar waith ehangach y Cyngor a’i bartneriaid.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phencampwr Oed-Gyfeillgar Cyngor Gwynedd:Mae gwrando ar leisiau pobl hŷn a deall eu profiadau o heneiddio yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n gwaith yma yng Ngwynedd.

“Yn ôl ym mis Ebrill 2024, derbyniodd Gwynedd gydnabyddiaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd am ein gwaith tuag at ddod yn gymuned oed-gyfeillgar. Ers hynny, rydym wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hwn gyda’r nod o sicrhau bod Gwynedd yn lle da i fyw a heneiddio ynddo.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn eleni, rydym am glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am yr hyn sydd ar garreg eu drws, yr hyn sy’n gweithio’n dda yn eu cymunedau, a’r hyn y gellid ei wella. Bydd yr hyn a glywn yn ein helpu i barhau i ddatblygu Gwynedd fel lle da i fyw a heneiddio ynddo.”

Bydd y Cyngor yn mynd allan i gyfarfod pobl hŷn ar draws y sir, gan fynychu sesiynau grŵp mewn cartrefi preswyl, galw mewn i grwpiau cymunedol lleol, a thrafod ag unigolion sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol.

Os ydych chi’n aelod o grŵp cymunedol ac yn awyddus i’r grŵp gymryd rhan, cysylltwch â Thîm Gwynedd Oed Gyfeillgar drwy ffonio 01286 682818 neu ddanfon e-bost oedgyfeillgar@gwynedd.llyw.cymru