Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn achrediad Sefydliad Iechyd y Byd fel Cymuned Oed Gyfeillgar. Mae hyn yn cyd-fynd a’r gwaith cenedlaethol gan Llywodraeth Cymru a Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Dysgu mwy am waith Sefydliad Iechyd y Byd (yn agor mewn tab newydd)

Mae’n bosib darllen cynllun gweithredu Gwynedd Oed Gyfeillgar isod.

Cynllun Gweithredu Gwynedd Oed Gyfeillgar

O fewn Cyngor Gwynedd mae dau rôl benodol sy’n cefnogi’r gwaith a gallwch gysylltu â hwy am fwy o wybodaeth:

Sgyrsiau oed-gyfeillgar
Mae clywed lleisiau pobl hŷn yn holl bwysig i’r maes gwaith ac felly os ydych eisiau gwahodd Swyddog Oed-Gyfeillgar y Cyngor draw i ddigwyddiad neu i’ch cymuned yna cysylltwch â ni i drefnu amser cyfleus.