Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Tai ar Daith’ trwy’r sir er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor am faterion tai gyda thrigolion.
Yn dilyn poblogrwydd y digwyddiadau y llynedd, bydd Tai ar Daith yn ymweld â Blaenau Ffestiniog, Botwnnog ym Mhen Llŷn, Bala a Bangor eleni, gan ddechrau gyda’r digwyddiad cyntaf yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog ar 8 Hydref o 4pm tan 6pm.
Pwrpas y digwyddiadau hyn yw codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am y cynlluniau tai sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain.
Yn ystod y digwyddiadau, bydd cynrychiolwyr o'r Cyngor a phartneriaid allweddol o gymdeithasau tai wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys manylion am grantiau a benthyciadau sydd ar gael i helpu trigolion Gwynedd i brynu cartref, prosiectau i gynyddu’r cyflenwad tai ledled Gwynedd a phrosiectau i fynd i’r afael â digartrefedd yn y sir, ymysg llawer mwy.
Bydd swyddogion ar gael i helpu gydag unrhyw fater sy'n ymwneud â thai, o lenwi ffurflenni i drafod ceisiadau gan sicrhau bod pob mynychwr yn derbyn cefnogaeth sy’n addas i’w hanghenion personol.
Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys:
- Cynlluniau tai
- Digartrefedd
- Siop un stop tai – ar gael i drafod ceisiadau tai cymdeithasol a fforddiadwy
- Tai gwag
- Cyngor ynni yn y cartref
Bydd cymdeithasau tai hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid sy'n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.
Daw’r digwyddiadau hyn o dan faner Cynllun Gweithredu Tai gwerth dros £200 miliwn y Cyngor i fynd i’r afael â phrinder tai’r sir a sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.
Mae’r Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, yn annog pobl i fynychu:
Mae Tai ar Daith wedi bod yn llwyddiant dros y ddwy flynedd diwethaf, ac rydym yn falch iawn o gael y cyfle unwaith eto i fynd allan i’n cymunedau yng Ngwynedd a siarad â phobl wyneb yn wyneb am unrhyw beth sy’n eu poeni nhw o ran tai.
Rydym wedi trefnu’r digwyddiadau Tai ar Daith i roi cyfle i bawb siarad â’r Cyngor am dai a materion cysylltiedig, fel lleihau biliau ynni ac ati. Dwi eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi drafod eich anghenion tai hefo ni - boed hynny os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref, neu os ydych chi’n awyddus i rentu tŷ cymdeithasol neu dŷ fforddiadwy, cael benthyciad i brynu cartref, help i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, i adeiladu cartref newydd, a llawer iawn mwy.
Rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Ngwynedd, ac mae gwrando ar ein cymunedau yn rhan bwysig o hynny. Felly, os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wybod mwy am yr help sydd ar gael, dewch draw i drafod. Mae’n bosib iawn bod mwy o help ar gael gan y Cyngor a’i bartneriaid nag ydych chi’n ei feddwl.”
Digwyddiadau i ddod:
Blaenau Ffestiniog
- 8 Hydref
- 4-6pm
- Ysgol y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DW
Botwnnog, Pen Llŷn
- 22 Hydref
- 4-6pm
- Ysgol Botwnnog, Llyn, Gwynedd, LL53 8PY
Y Bala
- 12 Tachwedd
- 4-6pm
- Ysgol Godre’r Berwyn, Heol Ffrydan, Bala, LL23 7RU
Bangor
- 2 Rhagfyr
- 4-6pm
- Ysgol Tryfan, Lon Powys, Bangor, LL57 2TU
Mwy o wybodaeth: Tai ar daith: Sesiynau galw-i-mewn - Cyngor Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)