Tai ar daith: Sesiynau galw-i-mewn

Eisiau gwybod mwy am gynlluniau tai Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid? Eisiau gwybod pa help sydd ar gael i ddod o hyd i gartref addas? Dewch i ymuno â ni am un o’n sesiynau ‘Tai ar Daith’.

Pwrpas y digwyddiadau yma yw codi ymwybyddiaeth am y cynlluniau tai sydd ar gael i sicrhau bod gan bobl fynediad at gartrefi addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.

Beth yw Tai ar Daith?

Mae digwyddiadau Tai ar Daith yn cael eu trefnu gan Gyngor Gwynedd ac maen nhw’n cael eu cynnal eleni ym Mhlaenau Ffestiniog, Botwnnog, y Bala a Bangor. Yn y sesiynau galw-i-mewn anffurfiol yma, gall unrhyw un ddod i ofyn cwestiynau a thrafod materion yn uniongyrchol gyda swyddogion tai arbenigol.

Digwyddiadau i ddod:

ArdalDyddiad ac amserLleoliad
Blaenau Ffestiniog8 Hydref, 4-6ypYsgol Y Moelwyn
Botwnnog22 Hydref, 4-6ypYsgol Botwnnog
Y BalaMwy o wybodaeth i ddilynMwy o wybodaeth i ddilyn
BangorMwy o wybodaeth i ddilynMwy o wybodaeth i ddilyn

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar tai@gwynedd@llyw.cymru