Mae’r adroddiad diweddaraf i Gabinet Cyngor Gwynedd gan arbenigwr annibynnol yn dweud ei fod yn galonogol gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud i gryfhau trefniadau diogelu plant y sir.
Yn ogystal, mae Cabinet y Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd. Cyhoeddwyd y cynllun gwreiddiol yn dilyn troseddu cyn-bennaeth ysgol yn y sir ac bellach mae wedi ei adolygu a’i gryfhau, yn unol ag adborth manwl gan sawl pwyllgor a’r Cyngor Llawn.
Wrth gyflwyno ei hadroddiad chwarterol diweddaraf i’r Cabinet, dywedodd yr Athro Sally Holland:
Mae cryfhau trefniadau diogelu ac ymgorffori dull o ganolbwyntio ar y plentyn – sy’n seiliedig ar hawliau ar draws system gyfan – yn cymryd amser, arweinyddiaeth barhaus a chraffu gofalus. Mae’n galonogol gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud a'r parodrwydd i ddysgu ac addasu.
Mae'r Rhaglen yn uchelgeisiol a bydd yn parhau i fynnu amser ac adnoddau er mwyn bod yn llwyddiannus. Byddaf i a’r arbenigwyr annibynnol eraill sydd ar y Bwrdd Cynllun Ymateb yn parhau i ddarparu cefnogaeth adeiladol a throsolwg gadarn i'r Cyngor wrth i'r gwaith hanfodol yma fwrw yn ei flaen.”
Wrth groesawu’r ddau adroddiad oedd gerbron y Cabinet – sef adroddiad cynnydd yr Athro Holland a’r Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd – dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn benderfynol o sicrhau fod profiadau a lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a’u cymryd o ddifri. Y deyrnged fwyaf y gallwn dalu i ddewrder y dioddefwyr a goroeswyr ydi gweithredu newid, fel na all y methiannau a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder ddigwydd yma eto.
“Mae adroddiad yr Athro Holland heddiw a mabwysiadu’r Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd yn gam arall pwysig ar y daith i Gyngor Gwynedd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros yr Adran Plant a Theuluoedd: “Mae’r Cynllun Ymateb eisoes wedi arwain at newidiadau sylweddol, ond mae llawer o waith yn parhau i’w wneud.”
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg: “Mae’r Cabinet yn ddiolchgar i’r Athro Sally Holland am ei hadroddiad diweddaraf ac i aelodau’r Bwrdd Ymateb am eu gwaith. Mae’r Cyngor yn ffodus o gael y dyfnder yma o brofiadau ac arbenigedd i’n cynorthwyo i symud ymlaen.
“Mae’r Cynllun Ymateb newydd yn cynnwys mwy o ffrydiau gwaith a bydd y Bwrdd Ymateb yn parhau i fonitro’r cynnydd.”
Mae’r ddau adroddiad a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar 10 Mawrth i'w gweld yma: Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 10fed Mawrth, 2026, 1.00 y.h. (yn agor mewn tab newydd)
Mae fersiwn syml o’r Cynllun Ymateb ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb (yn agor mewn tab newydd)