Arolwg Busnes 2026

Ydych chi'n berchen ar neu yn rhedeg busnes yng Ngwynedd? Rhannwch eich barn.

Arolwg yn agored. Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2026.

Rheswm dros yr arolwg

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal Arolwg Busnes 2026 i gael gwell dealltwriaeth o'r amgylchedd gweithredu presennol i fusnesau ledled y sir. Bydd yr adborth yn helpu i lywio datblygiad gwasanaethau, prosiectau a mentrau economaidd sy'n cefnogi twf a gwytnwch busnesau yng Ngwynedd.

Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau am berfformiad busnes, recriwtio a sgiliau, eiddo busnes, buddsoddi, y Gymraeg a chymorth busnes.

Mae cyfranogiad busnesau ledled Gwynedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth a gesglir yn adlewyrchu profiadau, heriau a blaenoriaethau'r gymuned fusnes mor eang â phosibl.

Dweud eich dweud

Holiadur ar-lein: Arolwg Busnes 2026 (yn agor mewn tab newydd)

Cyfnod yr arolwg: 12 Hydref 2026 - 20 Tachwedd 2026.

Am fwy o wybodaeth neu i dderbyn gopi drwy’r post, cysylltwch â ni: