Arddangosfa newydd yn agor yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog

Logo Gwynedd
Uned y Wasg, Cyngor Gwynedd

Mae arddangosfa newydd yn agor a dau weithdy creadigol yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Blaenau Ffestiniog er mwyn dathlu treftadaeth chwarelyddol yr ardal diolch i brosiect LleCHI LleNI.

Mae Gwerthfawrogi Blaenau yn arddangosfa o waith yr artist lleol Falcon Hildred sy’n rhoi sylw i dirwedd a threftadaeth ardal Blaenau Ffestiniog drwy gyfres o luniau dyfrlliw ac inc.

Mae saith prif thema i’r arddangosfa:

  • cipolwg ar Blaenau,
  • y chwareli,
  • celf o’n hamgylch pob dydd,
  • pwysigrwydd dyluniad da a drwg,
  • colledion a nodweddion sydd dal mewn perygl,
  • awyrgylch a newid,
  • sut mae pob dim yn ymwneud â phobl.

Mae dau weithdy wedi’u trefnu dan arweiniad yr artist Jwls Williams. Bydd cyfle i arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau amlgyfrwng wedi'u hysbrydoli gan ddyluniadau Falcon Hildred.

Cynhelir y gweithdai ar:

  • 26 Hydref 2026 (gweithdy sy’n addas i’r teulu gyfan)
  • 30 Hydref 2026 (gweithdy i oedolion)

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, a mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw drwy dudalen Eventbrite Llechi Cymru-Wales Slate www.eventbrite.co.uk

Poster digwyddiad gweithdy Llechi

Dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

Mae diwylliant yn bwysig i bobl Gwynedd, a mae cefnogi digwyddiadau, a gweithgareddau cymunedol yn hanfodol i gynnal hunaniaeth, yr iaith a traddodiadau cyfoethog ac amrywiol ein trigolion.

“Mae dynodiad Safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a prosiectau fel LleCHI LleNI dan faner Llechi Cymru yn cynnig cyfle i greu bwrlwm. Dwi’n falch ein bod yn medru rhoi llwyfan i artistiaid a chyfle i bobl o bob oed gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n meithrin eu creadigrwydd o fewn ein cymunedau.

“Dwi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf neu hanes a threftadaeth y dirwedd llechi i ddod draw i ddarganfod gwaith ysbrydoledig Falcon Hildred, mwynhau diwrnod llawn creadigrwydd yn un o’r gweithdai a dod i ddysgu mwy am yr ardal arbennig yma.”

Mae’r arddangosfa yn gydweithrediad rhwng Falcon Hildred a Reg Angel, sydd yn cyd-ddylunio’r arddangosfa a’r cynhyrchu technegol.

Fel rhan o’r arddangosfa bydd cofnod gweledol ar ffurf ffilm yn adrodd stori Falcon Hildred.

Bydd arteffactau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant llechi, megis corn chwarel yr Oakeley, llechen gyfri, tecell, piseri a thin bwyd y caban yn cael eu harddangos diolch i gasgliad STORIEL (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd).

Meddai Falcon Hildred:

“Mae’n gasgliad o waith ddechreuodd yn 1968 pan ddes i yma ar wyliau a chael fy rhyfeddu gan yr archaeoleg ddiwydiannol. Yr archaeoleg ddiwydiannol oedd y gorau a’r mwyaf crynodedig i mi eu gweld erioed.

“Dechreuais gofnodi ar unwaith a dw i wedi bod yn cofnodi ers hynny, a dw i dal yn meddwl mai dyma mae’r casgliad mwyaf cyfoethog o dreftadaeth ddiwydiannol sydd wedi goroesi ym Mhrydain.

“Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o’r ffaith ein bod ni, diolch i Gyngor Gwynedd a’i chymwynaswyr, yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd. I fi, mae hynny yn dystiolaeth hyfryd o fy niddordeb yn y lle.”

Ochr yn ochr â’r lluniau, mae nifer o arsylwadau gan Falcon Hildred, yn ei ysgrifen. Ymysg y gwaith, mae darlun dychmygol o ardal o 6.8 milltir o Flaenau Ffestiniog o’r awyr yn dangos y tuag ugain gwahanol chwarel yn y fro.

Ychwanega’r artist:

“Ar ddiwedd yr arddangosfa, dw i yn dweud os ydych chi yn hoffi fy narluniadau, ewch allan a gwarchod yr hyn sydd wedi eu hysbrydoli. Maen nhw dipyn mwy gwerthfawr, nhw yw’r nodweddion awthentig, wedi eu hadeiladu gan bobol o anghenraid. Fedrwch chi ddim cael dim byd mwy awthentig na hynny. Mae’n gwbl werthfawr.”

Bydd yr arddangosfa ymlaen rhwng 19 Hydref 2026 a 19 Ionawr 2027.

Mae oriau agor yr arddangosfa yn unol â oriau agor y llyfrgell. Gwiriwch o flaen llaw ar www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell neu drwy ffonio Llyfrgell Blaenau Ffestiniog ar 01766 830415.