Mae Cyngor Gwynedd yn estyn croeso cynnes i berchnogion faniau gwersylla a chartrefi modur sy'n dewis ymweld â'r sir, ac yn eu hannog i helpu i gadw Gwynedd yn lle glân, diogel a phleserus i bawb ei fwynhau.
Mae Gwynedd yn gyrchfan boblogaidd sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn oherwydd ei thirweddau unigryw, ei harfordir godidog a'i chymunedau bywiog. Er mwyn sicrhau profiad cadarnhaol i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, mae'r Cyngor yn gofyn i berchnogion faniau gwersylla a chartrefi modur gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad a'u heffaith ar yr amgylchedd lleol.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob math o wastraff yn cael ei waredu'n gyfrifol ac yn gyfreithlon, gan gynnwys sbwriel, dŵr gwastraff a gwastraff cemegol. Mae'r Cyngor hefyd yn annog ymwelwyr i osgoi achosi aflonyddwch mewn cymunedau lleol, yn enwedig yn ystod y nos ac yn gynnar yn y bore.
Gofynnir i berchnogion faniau gwersylla a chartrefi modur hefyd fod yn ystyriol wrth ddefnyddio mannau parcio. Dylid parchu unrhyw gyfyngiadau a rheoliadau parcio, ac ni ddylai cerbydau feddiannu lleoedd am gyfnodau estynedig, yn enwedig mewn lleoliadau prysur. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod parcio yn parhau i fod ar gael i drigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr eraill.
Mae amrywiaeth eang o safleoedd gwersylla a safleoedd sy'n darparu ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur ar draws Gwynedd, gan ddarparu lleoedd addas i aros, gwasanaethau hanfodol a chyfleusterau ar gyfer gwaredu gwastraff yn ddiogel. Mae'r Cyngor hefyd yn darparu mannau stopio cartrefi modur pwrpasol mewn lleoliadau dethol trwy ei gynllun Arosfan. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Cartrefi modur / Arosfan - Cyngor Gwynedd
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
"Rydym yn falch o groesawu ymwelwyr sy'n dod i fwynhau harddwch Gwynedd yn eu faniau gwersylla a'u cartrefi modur. Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi'r sir ac rydym am i bawb gael profiad cadarnhaol o'u hymweliad.
"Yr hyn rydym yn ei ofyn yw bod pobl yn ystyriol o'r cymunedau y maent yn ymweld â nhw, yn parchu'r amgylchedd ac yn gwaredu eu gwastraff yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. Mae hefyd yn bwysig bod gyrwyr yn parchu trefniadau parcio lleol ac yn osgoi meddiannu mannau am gyfnodau hir pan fo galw mawr amdanynt.
"Mae gennym ystod ragorol o safleoedd ledled Gwynedd sy'n darparu'n benodol ar gyfer faniau gwersylla a chartrefi modur, ac rydym yn annog pobl i wneud defnydd o'r cyfleusterau hyn. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod Gwynedd yn parhau i fod yn lle croesawgar a phleserus i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd."
Ychwanegodd y Cyngor fod ymddygiad cyfrifol gan ymwelwyr yn helpu i ddiogelu amgylchedd naturiol arbennig Gwynedd ac yn cyfrannu at gynnal perthynas gadarnhaol rhwng cymunedau lleol ac ymwelwyr.
