Cartrefi modur / Arosfan

Safleoedd penodol ar gyfer parcio cartrefi modur dros-nos.

Parcio cartrefi modur yn ystod y dydd
Parcio cartrefi modur dros nos
Parcio dros nos ar ochr y ffordd / tir preifat


Parcio cartrefi modur yn ystod y dydd

Gall cartrefi modur barcio yn unrhyw un o feysydd parcio Cyngor Gwynedd yn ystod y dydd.

Ond nodwch bod rhwystrau uchder yn y meysydd parcio canlynol sy'n golygu na fydd mynediad i gartrefi modur mawr.

  • Llyn Bach Porthmadog
  • Stryd Lombard, Porthmadog
  • Morannedd, Cricieth
  • Ffordd Caerdydd, Pwllheli
  • Pen y Gogledd, Abermaw
  • Colwyn Banc, Beddgelert

Os nad ydi’r cerbyd yn ffitio’n daclus oddi fewn i’r marciau, rhaid talu am ddau lecyn parcio


Parcio cartrefi modur dros nos - Arosfan

Mae gan y Cyngor 4 safle penodol ar gyfer cartrefi modur i aros dros-nos yn:

  • Maes parcio’r Maes, Cricieth (LL52 0BT)
  • Y Glyn, Llanberis (LL55 4TY);
  • Cei’r Gogledd, Pwllheli (LL53 5YR);
  • Maes parcio Doc Fictoria (hen safle Shell), Caernarfon (LL55 1SQ).

Mae’r safleoedd Arosfan (tebyg i safleoedd Aires ar y cyfandir) wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol.

Pris

£16.50 am un noson (4pm tan 10am y bore canlynol).

Talwch yn y peiriant talu ac arddangos agosaf neu drwy’r Ap Paybyphone (yn agor mewn tab newydd) neu YourParkingSpace ar gyfer Arosfan Y Glyn, Llanberis.

(noder fod ffi gwasanaeth bychan am dalu drwy’r ap)

Uchafswm o 2 noson dilynol yn unig. Ni chaniateir dychwelyd o fewn 7 diwrnod.

Mae cyfleusterau ar gyfer dŵr ffres, dŵr gwastraff cemegol, ailgylchu a sbwriel cyffredinol yn y rhan fwyaf o’r safleoedd (manylion isod).

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy raglen Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru i dreialu’r lleoliadau Arosfan.

Parcio dros nos ar ochr y ffordd / tir preifat

Nid yw gwersylla dros nos yn cael ei annog ar unrhyw ran o’r briffordd, gan gynnwys baeau ar ochr y ffordd (lay-bys) nac ar dir preifat (oni bai eich bod wedi derbyn caniatâd gan berchennog y tir).

Ymholiad / cwyn parcio cartrefi modur yng Ngwynedd (yn agor mewn tab newydd)

Ap Parcio! Mae'n bosib talu am barcio drwy ddefnyddio ap PayByPhone neu efo arian parod yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd.
Ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store neu Google Play Store
Mwy o wybodaeth (yn agor mewn tab newydd)