Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau, a hynny er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.

Bob blwyddyn mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.

Gweledigaeth ac Egwyddorion Diwylliant Gwynedd

Gweledigaeth: “Mae diwylliant yng Ngwynedd yn hanfodol, yn arloesol ac wedi’i wreiddio yn ein cymunedau. Mae’n rhoi lliw i fywyd, yn hyrwyddo lles, ac yn adlewyrchu ein hunaniaeth amrywiol a’n Cymreictod yn hyderus i Gymru a’r byd. Mae diwylliant yng Ngwynedd yn fyrlymus ac yn fyw a gyda’n gilydd, rydym eisiau cynnal, cefnogi a thyfu diwylliant sy’n perthyn i bawb - heddiw ac i'r dyfodol”.

Grantiau

Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol. Gallwn hefyd gefnogi perfformiadau proffesiynol yn y gymuned drwy raglen Noson Allan a Noson Allan Fach, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mwy o fanylion am gronfeydd ariannol

Llyfr Lloffion Celfyddydau Cymunedol Gwynedd Haf 2026

Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl Gwynedd i fwynhau a phrofi’r celfyddydau – er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.

Bob blwyddyn, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ledled y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cipolwg hwn ar rywfaint o'r gwaith a wnawn. Gallwch ddarllen y llyfr lloffion drwy'r ddolen isod:

Llyfr Lloffion Haf 2026 (yn agor mewn tab newydd)


Digwyddiad Dathlu Diwylliant Gwynedd Er Lles Pawb

Mae’r sector diwylliant wedi dod ynghyd yn ddiweddar ym Mhortmeirion ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu.

Wedi ei drefnu gan Cyngor Gwynedd, roedd y digwyddiad llawn bwrlwm gyda bron i 80 yn mynychu - yn gyfle i ddysgu, archwilio a dathlu’r sector gyda rhanddeiliaid, gan amlygu pwysigrwydd diwylliant er lles pawb.

Darllen stori llawn (yn agor mewn tab newydd)


Mwy o wybodaeth

Am newyddion, cyfleoedd, digwyddiadau, manylion artistiaid a mudiadau celfyddydol Gwynedd ewch i Gwynedd Greadigol, neu dilynwch ni ar Instagram (yn agor mewn tab newydd) a Facebook (yn agor mewn tab newydd).

Neu cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol: