Grantiau celfyddydol

Mae grantiau amrywiol ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol yng Ngwynedd.

Cronfa Celfyddydau Cymunedol

Cronfa i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gynnal gweithgareddau celfyddyd gymunedol yng Ngwynedd. Grantiau hyd at £500 ar gael.

Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau cyn llunio eich cais. Cysylltwch am gyngor a gwybodaeth bellach celf@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiadau cau:

  • 31 Mawrth 2026
  • 30 Mehefin 2026
  • 30 Medi 2026
  • 15 Rhagfyr 2026

Rydym yn anelu i gysylltu ag ymgeiswyr gyda chanlyniadau eu cais o fewn pythefnos wedi'r dyddiad cau. Byddwn yn cydnabod derbyn pob cais a ddaw i law.


Cronfa Cefnogi Celfyddydau

Amcan y gronfa hon yw cefnogi prosiectau a sefydliadau celfyddydol yng Ngwynedd, i barhau i'w galluogi i gynnal gweithgareddau a rhaglenni celfyddydol i gymunedau Gwynedd rhwng Mehefin 2026 a Mawrth 2028.

  • Faint o grant sydd ar gael? Grantiau hyd at £7,500 ar gael.
  • Dyddiad cau: 10yb 12 Mai 2026. Rhaid cwblhau eich prosiect erbyn 26 Mawrth 2028.

Noson allan

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â Noson Allan.

Oes canolfan gymunedol, neuadd bentref neu glwb ieuenctid gyda chi?

Hoffech chi groesawu perfformiadau proffesiynol i'ch canolfan?

Hoffech chi osgoi'r pen tost o boeni am y risg ariannol?

Ydych chi'n poeni nad allwch ei fforddio? Gallwch, mi allwch.

Gallwn gynnig cyllid, cyngor, tocynnau a gwefan gyfoes gyda manylion am y cwmnïau a'r sioeau sydd ar gael. Gallwch wneud cais i'r cynllun a reolir gan Uned Teithio Cymunedol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.

Ydych chi'n berfformiwr proffesiynol, cwmni theatr neu fand a hoffai ymuno â'r cynllun? Ymwelwch â'r wefan am fwy o fanylion www.nosonallan.org.uk (yn agor mewn tab newydd)

Cronfeydd Grant Posib Eraill

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol i’r celfyddydau - ewch i Celf Cymru (yn agor mewn tab newydd) am fwy o fanylion.


Gwybodaeth bellach

Ffoniwch 01286 679721 neu e-bostiwch celf@gwynedd.llyw.cymru