Mae mynd i'r toiled yn garreg filltir fawr i blant ifanc. Mae'n bwysig annog y plentyn a bod yn amyneddgar gyda nhw. Mae pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, felly ceisiwch aros yn bositif ac yn gyson.
Dyma adnoddau a gwybodaeth i'ch cefnogi chi a'r plentyn:
Podlediad
Gwrandewch ar bodlediad 'O'r Napi i'r Poti' gan Teulu Gwynedd am sgwrs ddifyr gyda rhieni sydd yn rhannu eu profiadau, a phobl broffesiynol sy'n cynnig arweiniad ac atebion i gwestiynau cyffredin:
Llyfrau
Mae llawer o lyfrau ar gael i'ch helpu yn eich llyfrgell leol:
Gwefannau defnyddiol
Gwefannau sydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar gyfer hyfforddiant poti.
- Gwefan ERIC (yn agor mewn tab newydd)
- Magu Plant. Rhowch amser iddo: Hyfforddiant i ddefnyddio’r toiled neu’r poti
- How to potty train - NHS (saesneg yn unig)
Dechrau'r ysgol
Disgwylir bod eich plentyn yn gallu ddefnyddio'r toiled cyn cychwyn yn yr ysgol, oni bai bod gan eich plentyn gyflwr meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.
Cyn dechrau yn yr ysgol mae disgwyl i'r plentyn:
- Allu dweud wrth oedolyn pryd mae angen iddynt ddefnyddio'r toiled.
- Gallu defnyddio'r toiled gyda chymorth lleiaf posibl.
- Gallu rheoli eu dillad (tynnu trowsus i fyny/i lawr).
- Bod yn gyfarwydd â sychu a hylendid sylfaenol, fel golchi dwylo.
Gweld llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
Canllawiau ac Adnoddau ADY (anghenion dysgu ychwanegol)
- Gweld Canllawiau Toiledu i blant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Lawrlwytho Adnoddau Gweledol ADYaCh
- Gwefan ERIC (ar gael yn Saesneg yn Unig)
Ddim yn hollol yno eto?
Mae hynny'n iawn! Os yw'ch plentyn yn dal i weithio ar eu sgiliau toiled, rydym yn eich annog i gysylltu â:
- Ymwelydd Iechyd neu Nyrs ysgol. (yn agor mewn tab newydd) neu
- Ymataliaeth Bediatrig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Pecynnau Cymorth Toiledu
Mae gan Teulu Gwynedd becynnau cymorth toiledu ar gael i rieni a gwarchodwyr. Os ydych eisiau pecyn, cysylltwch â:
teulugwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Helpu'n gilydd!
Helpwch ni ledaenu’r neges drwy rannu tudalen hon ar eich cyfryngau cymdeithasol.
Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod toiledu yn broses bositif ac yn rhoi dechrau hyderus a hapus i blentyn.