Mae rhaglen Turnaround yn darparu cyllid i Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ar draws Cymru a Lloegr i gefnogi’r plant/pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn agored i’r System Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’r rhaglen yn ffocysu ar gynnig cymorth cynnar gyda’r nod o atal troseddu/aildroseddu yn y dyfodol.
Nôd y rhaglen
- Helpu plant a phobl ifanc gyflawni canlyniadau cadarnhaol drwy adnabod eu cryfderau, annog dewisiadau cadarnhaol a’u cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.
- Cynnig cymorth i blant a phobl ifanc sydd yn wynebu heriau neu sefyllfaoedd anodd – gall hyn fod yn hyblyg a gellir ei deilwra ar anghenion unigol plentyn / person ifanc.
- Gwella lles emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc
- Cryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac asiantaethau cefnogol eraill.
Pwy all gymryd rhan yn Turnaround?
Mae Turnaround ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 10–17 oed sydd wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu wedi dod i gysylltiad lefel isel â’r heddlu neu'r llysoedd. Gall hyn gynnwys plant a phobl ifanc sydd:
- Yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol dro ar ôl tro.
- Wedi derbyn rhybudd neu orchmynion (e.e. Rhybudd/Hysbysiad Diogelu Cymunedol, Contract Ymddygiad Derbyniol)
- Wedi cael eu harestio, eu cyfweld neu eu hymchwilio gan yr heddlu
- Heb unrhyw gamau pellach wedi'u cymryd yn eu herbyn, neu’r achosion rheiny sydd yn derbyn Datrysiad Cymunedol
- Wedi derbyn eu Rhybudd Ieuenctid cyntaf
- Ar fechnïaeth neu wedi'u rhyddhau dan ymchwiliad
- Wedi bod yn y llys ac yna eu rhyddhau, eu rhyddfarnu, neu eu dirwyo.
Pwyntiau pwysig
- Dylid gwneud cyfeiriad i’r gwasanaeth o fewn 3 mis i'r digwyddiad
- Y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid lleol fydd yn penderfynu pa achosion fydd yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar anghenion lleol
- Nid yw plant/pobl ifanc sydd wedi bod yn agored i’r GCI yn y gorffennol yn gymwys.
Mae Turnaround wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio helpu ac atal plant a pobl ifanc rhag mynd i drafferth. Mae hyn wedyn yn eu cynorthwyo i gael canlyniadau mwy cadarnhaol.
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn
Cysylltwch â ni am gefnogaeth neu fwy o wybodaeth
Ffôn01248 679 183
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Menai, Glan y Môr, Y Felinheli, Caernarfon, Gwynedd, LL56 4RQ