Gwaith Ataliol

Gall y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn weithio gyda plant a phobl ifanc rhwng 10-17 mlwydd oed os ydynt mewn perygl o droseddu yn y dyfodol.
Gelwir hyn yn waith ataliol ac mae’r ymyrraeth ataliol yma yn wirfoddol. Rhaid derbyn caniatâd gan y plentyn/person ifanc a’r rhiant/gwarchodwr cyn gyrru cyfeiriad ar gyfer y gwasanaeth yma.

Gall yr heddlu, staff ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol neu rieni anfon cyfeiriad atom ar gyfer plentyn / person ifanc.


Dargyfeirio

Os yw plentyn neu berson ifanc yn parhau i droseddu, gall Heddlu Gogledd Cymru gyfeirio achosion at Banel Dyraniadau’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd.

Bydd Aelodau'r Panel yn trafod yr achos dan sylw, anghenion y plentyn / person ifanc, yr effaith ar y dioddefwr a'r canlyniad mwyaf priodol. Cynhelir y Panel Dyraniadau bob pythefnos ac mae aelodau’r panel yn cynnwys:

  • Swyddog Heddlu'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Rheolwyr Gweithrediadau ac Arbenigeddau Cynnar
  • Gweithiwr Dioddefwr
  • Cynrychiolydd Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Staff addysg
  • Staff iechyd

Y math o gamau neu ganlyniad fydd yn cael eu hystyried

  • Rhybudd Ieuenctid
  • Rhybudd Amodol Ieuenctid
  • Datrysiad Cymunedol Safonol
  • Datrysiad Cymunedol Ychwanegol
  • Erlyniad Gohiriedig Plentyn.

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Cysylltwch â ni am gefnogaeth neu fwy o wybodaeth
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Menai, Glan y Môr, Y Felinheli, Caernarfon, Gwynedd, LL56 4RQ