Os ydych yn berson ifanc (o dan 18) sy’n byw yn Ngwynedd neu Môn a’ch bod yn gorfod mynd o flaen Llys gan eich bod wedi troseddu, neu eich bod o dan amheuaeth o gyflawni trosedd yna gallwch gysylltu â ni ar 01248 679 183.

Paratoi ar gyfer y Llys

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y dyddiad a'r amser sydd angen i chi fod yn y Llys.
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn teithio i'r Llys.
  • Gofynnwch i riant neu ofalwr fynychu gyda chi. Os ydych yn 16 mlwydd oed neu'n iau, rhaid i riant neu ofalwr fynychu gyda chi. Os nad ydynt yn mynychu, mae posibilrwydd y byddant yn mynd i drafferth, ac efallai y bydd eich achos yn gorfod cael ei ohirio nes y byddent yn dod i'r Llys gyda chi.
  • Rhowch wybod i'r Llys ymlaen llaw os na allwch fynychu – bydd angen rheswm da dros beidio â mynychu (er enghraifft – arholiadau / triniaeth ysbyty).
  • Gallwch siarad â Chyfreithiwr o'ch dewis cyn i chi fynd i'r Llys, a gofyn am eu cefnogaeth. Os nad oes gennych gyfreithiwr, gallwch ofyn i gael gweld cyfreithiwr pan fyddwch yn cyrraedd y Llys (trwy Cymorth Cyfreithiol).
  • Yn y Llys, bydd gofyn i chi bledio'n 'euog' neu'n 'ddieuog'.
  • Mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi'n mynychu'r Llys gan fod peidio â gwneud hynny'n drosedd ddifrifol.

Mynychu'r Llys

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd ar amser a’ch bod yn adrodd i'r ddesg flaen eich bod wedi cyrraedd, byddent yn eich cynghori ynglŷn â ble i eistedd yn yr ystafell aros.
  • Os nad oes gennych Gyfreithiwr, gallwch ofyn i weld y Cyfreithiwr ar ddyletswydd, a byddant yn rhoi cyngor i chi (trwy Cymorth Cyfreithiol).
  • Bydd rhywun o'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yno ar ddiwrnod y Llys i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth sy'n digwydd ac yn cael atebion i unrhyw gwestiynau fydd gennych.
  • Byddwch yn cael eich galw mewn i'r ystafell llys a bydd y Tywyswr Llyr yn dangos i chi ble i sefyll. Bydd eich rhiant / gofalwyr yn mynd gyda chi.
  • Bydd Clerc y Llys yn darllen y cyhuddiad(au) sydd yn eich herbyn.
  • Gofynnir i chi bledio'n 'euog' neu'n 'ddieuog'
  • Efallai y bydd y Llys yn eich dedfrydu ar y diwrnod, neu efallai y bydd angen mwy o wybodaeth / adroddiadau arnynt, yn yr achosion hynny bydd gofyn i chi ddychwelyd ar ddyddiad arall. Gelwir hyn yn 'gohirio'.

Gorchmynion posibl y gellir eu rhoi

  • Gorchymyn Cyfeirio
  • Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid
  • Dedfryd y ddalfa

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Cysylltwch â ni am gefnogaeth neu fwy o wybodaeth
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Menai, Glan y Môr, Y Felinheli, Caernarfon, Gwynedd, LL56 4RQ