Tîm Emrallt yw'r Tîm Ymddygiad Rhywiol Problemus a Niweidiol ar gyfer Gwynedd.

Mae'r Tîm yn gweithio i hyrwyddo cefnogaeth gynnar, cyd-gysylltiedig i blant a phobl ifanc sy'n arddangos ymddygiadau rhywiol problemus neu niweidiol.

Nod y Tîm yw cefnogi ymateb cydweithredol, aml-asiantaeth, gan sicrhau bod plant, pobl ifanc, a'u teuluoedd yn cael ymyrraeth amserol ac effeithiol.

Mae Tîm Emrallt yn darparu cyngor, arweiniad ac yn ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ar draws y meysydd canlynol; gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg, i helpu asiantaethau i weithio gyda'i gilydd er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl.

Trwy ddod â’r gwasanaethau at ei gilydd, mae Tîm Emrallt yn helpu i nodi pryderon yn gynnar, yn atal problemau rhag gwaethygu, ac yn datblygu pecynnau cymorth wedi'u teilwra lle mae ymddygiadau rhywiol problemus neu niweidiol wedi'u nodi. Mae'r dull cyd-gysylltiedig hwn yn cryfhau atal, ymyrraeth a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar draws Gwynedd.

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni: