Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i unigolion sy’n 21 mlwydd oed neu hŷn.

Fel Aelod Panel Gwirfoddol, gallwch helpu drwy gynrychioli'r gymuned a chymryd rhan mewn gwaith cyfiawnder adferol yn ystod prosesau’r Heddlu (Erlyniadau Gohiriedig Plant a Phenderfyniadau Cymunedol) a phrosesau’r Llys (Gorchmynion Cyfeirio). Rôl Aelod Panel Gwirfoddol yw annog pobl ifanc i siarad am eu hymddygiad a’u cynorthwyo i adnabod beth all eu helpu i osgoi ail-droseddu.

Bydd yr Aelod Panel Gwirfoddol yn helpu i greu Contractau gyda'r bobl ifanc a fydd yn cynnwys ymyriadau i geisio mynd i'r afael â'r rhesymau y tu ôl i'w hymddygiad troseddol, yn ogystal â nodi camau gweithredu i wneud iawn am y niwed a achoswyd i ddioddefwyr neu'r gymuned ehangach.

Mae'r rôl yn cynnig cyfle gwych i ddysgu mwy am y System Cyfiawnder Ieuenctid tra hefyd yn helpu i wella dyfodol pobl ifanc sy’n agored i niwed a dioddefwyr troseddau yng Ngwynedd a Môn. Bydd hyfforddiant a chefnogaeth parhaus yn cael ei ddarparu.

Am beth rydyn ni'n chwilio mewn gwirfoddolwr?

  • Diddordeb mewn gweithio gyda pobl ifanc
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu cryf
  • Y gallu i ddeall ac dangos empathi tuag at blant, pobl ifanc neu’r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau
  • Bod yn deg ac diduedd

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn a gofynnwch i siarad â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr:

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn

Cysylltwch â ni am gefnogaeth neu fwy o wybodaeth
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Menai, Glan y Môr, Y Felinheli, Caernarfon, Gwynedd, LL56 4RQ