Mae Cyfiawnder Adferol yn rhan bwysig o’r gwaith gyda plant a phobl ifanc. Mae'n broses sy'n ceisio annog gwell dealltwriaeth o effaith troseddu ar unigolion a chymunedau.
Gall Cyfiawnder Adferol helpu i roi llais i'r rhai sy'n gyfrifol am droseddu, yn ogystal a’r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan y drosedd. Y bwriad yw cynnig y cyfle i’r plentyn/person ifanc weithio gyda'r unigolyn/unigolion sydd wedi cael eu heffeithio i geisio gwneud iawn am y niwed sydd wedi'i achosi. Mae'n ymwneud â cheisio symud ymlaen mewn modd cadarnhaol.
Bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr o Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yn cysylltu â'r unigolyn sydd wedi cael eu heffeithio er mwyn cwblhau asesiad effaith. Gall y Swyddog hefyd gysylltu gyda cynrychiolydd (a all drafod eich teimladau ar eich rhan) ar yr amod bod caniatâd wedi'i roi gan yr unigolyn sydd wedi cael ei effeithio.
Yn ystod y trafodaethau hyn, bydd yr unigolyn/cynrychiolydd yn cael cyfle i rannu barn a thrafod effeithiau’r drosedd, bydd y Swyddog yno i wrando. Bydd yr asesiad hefyd yn edrych ar ffyrdd o gefnogi'r person ifanc i geisio gwneud iawn am y niwed / y drosedd, megis:
- Ysgrifennu llythyr yn ymddiheuro neu’n esbonio.
- Cymryd rhan mewn cyfarfod 'Ein Pont' - cyfarfod wyneb yn wyneb sy'n cynnwys y plentyn/person ifanc a’r unigolyn/unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan y drosedd.
- Cyfryngu– rhannu negeseuon heb gyfarfod wyneb yn wyneb.
- Iawndal Cymunedol - gweithio yn y gymuned i wneud iawn.
Mae'r broses Cyfiawnder Adferol yn wirfoddol. Bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cynnig cefnogaeth ac yn sicrhau cyfathrebu cadarnhaol trwy gydol prosesau'r Heddlu a/neu'r Llys.
Mwy o wybodaeth
Cysylltau allanol
- Cyngor Cyfiawnder Adferol
- Côd Ymarfer Dioddefwyr
- Cymorth i Ddioddefwyr
- Are you a victim of crime? - Why Me?