Mae'r Gwasanaeth Rhianta o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yn cefnogi rhieni a gofalwyr pobl ifanc sydd rhwng 10–17 mlwydd oed sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu.
Y nod yw atal troseddu pellach a chefnogi teuluoedd i reoli ymddygiad y plant / pobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol.
Sut gallwn ni helpu
- Cymorth rhianta un-i-un
- Sesiynau grŵp i rieni
- Canllawiau i reoli ymddygiad heriol
- Cymorth i osgoi gwrthdaro a gwella cyfathrebu
- Cymorth i osod rheolau
- Meithrin hyder a sgiliau ymdopi
Sut rydym yn gweithio
Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar y teulu.
Mae’r gwaith wedi'i deilwra i anghenion pob teulu’n unigol. Yn aml caiff y gwasanaeth ei gyflwyno ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, staff iechyd ac addysg.
Enghreifftiau o ymyriadau
- SPACE (Cefnogi Rhieni a Phlant yn Emosiynol) - rhaglen sy'n cynnwys rhiant/gofalwr a pherson ifanc
- Cam Ymlaen – rhaglen strwythuredig a ddefnyddir yn aml mewn achosion o drais plentyn / person ifanc tuag at ei riant/gofalwyr.
Sut y bydd hyn yn helpu
- Gwella cyfathrebu o fewn y teulu
- Llai o wrthdaro yn y cartref
- Mwy o hyder wrth rianta
- Gwell dealltwriaeth emosiynol a rheoli ymddygiad.
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn
Cysylltwch â ni am gefnogaeth neu fwy o wybodaeth
Ffôn01248 679 183
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Cyngor Gwynedd, Swyddfa Menai, Glan y Môr, Y Felinheli, Caernarfon, Gwynedd, LL56 4RQ